Cwestiynau Cyffredin Calan Gaeaf 2025

Alla i barcio ar y safle?

Gallwch, mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio am ddim ar gael i ddeiliaid tocynnau o 4.30pm ymlaen. Rydyn ni wedi dyrannu’r tocynnau i’r nifer o lefydd parcio sydd ar y safle. Ceisiwch rannu car lle bo’n bosibl.

Mae cerbydau ac eiddo yn cael eu gadael ar risg y perchennog, ac nid ydyn ni'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i gerbydau na'u cynnwys. Peidiwch gadael unrhyw beth gwerthfawr yn eich car. 

Am faint mae’r digwyddiad yn para?

Bydd y drysau'n agor am 5.30pm a'r digwyddiad yn gorffen am 9pm.

Faint o’r gloch ddylwn i gyrraedd?

Mae drysau'n agor am 5.30pm. Bydd yr Amgueddfa ar agor i'r cyhoedd tan 4pm bob dydd. Peidiwch â chyrraedd cyn 4pm i atal tagfeydd gan gerbydau ac ymwelwyr sy'n gadael. 

Oes angen i mi archebu ymlaen llaw? 

Oes. Mae cyfyngiad ar y niferoedd ac rydym yn disgwyl i docynnau werthu'n gyflym. Prynwch eich tocyn o flaen llaw o'n gwefan i osgoi cael eich siomi.

Alla i brynu tocyn ar y drws? 

Na. Mae hwn yn ddigwyddiad lle mae angen prynu tocyn ymlaen llaw. Archebwch eich tocyn o'n gwefan.

Fydd y digwyddiad yn cael ei ganslo oherwydd tywydd gwael? 

Na fydd – bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen beth bynnag fo'r tywydd! Gwisgwch ddillad priodol. Rydyn ni'n argymell welis a dillad glaw yn barod i fwynhau tywydd hyfryd Cymru. Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiad yn yr awyr agored gyda rhai gweithgareddau dan do i nifer cyfyngedig. 

Alla i newid fy nyddiad?

Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu’r tocynnau hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu tocynnau ar y dyddiad cywir cyn mynd ymlaen i gwblhau’r archeb. 

Oes angen i mi archebu tocyn i’m babi?

Oes – bydd angen archebu tocyn am ddim ar gyfer babanod dan 2 oed (ar ddiwrnod y digwyddiad). Ni fyddant yn gallu mynd i mewn i’r digwyddiad heb docyn. Cofiwch gynnwys pob baban yn eich archeb. Oherwydd cyfyngiadau capasiti, nid oes unrhyw warant y byddwn yn gallu ychwanegu tocynnau babanod ychwanegol at eich archeb yn ddiweddarach.

Galla i ddod â fy mhlentyn mewn pram?

Caniateir pramiau a chadeiriau gwthio ar y safle ond ni cheir mynd â nhw i mewn i’r adeiladau hanesyddol. Mae'r nosweithiau hyn yn tueddu i fod yn brysur gyda nifer o bobl yn symud mewn cyfeiriadau gwahanol. Byddwch yn amyneddgar wrth wthio eich pram o gwmpas llwybrau’r safle.

Oes cyfleusterau newid cewynnau? 

Oes, maen nhw ar gael ger y Brif Fynedfa. ⁠

Ydych chi'n caniatáu gwisg ffansi? 

Ydyn! Rydyn ni'n eich annog i ddod draw yn eich gwisg ffansi i ddychryn yr ymwelwyr.

Alla i ddod â fy nghi? 

Na. Gadewch eich cŵn adref ar gyfer y digwyddiad hwn os gwelwch yn dda. Gall y safle fod yn brysur iawn a gorflino eich cŵn. 

Oes toiledau ar y safle?

Oes, mae toiledau ar y safle – dilynwch yr allwedd ar y map. 

Pa mor hygyrch yw'r safle? 

Mae llefydd parcio penodol i ymwelwyr anabl ar gael ger y brif fynedfa.

Mae cadeiriau olwyn ar gael am ddim, ar gais – y cyntaf i'r felin amdani. ⁠Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle, ond oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd. 

Uned Lleoedd Newid: Mae dau doiled Lleoedd Newid ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Gofynnwch i aelod staff am fanylion os gwelwch yn dda. 

Beth yw eich polisi ysmygu? 

Ni chaniateir ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) ar y safle. 

Beth sydd angen i mi ei wneud gyda fy e-docynnau?

⁠Byddwch yn barod i sganio eich e-docyn(nau) yn y fynedfa. Rydym yn argymell i chi lawrlwytho ac ychwanegu eich e-docynnau at waled eich ffôn cyn cyrraedd yr Amgueddfa. Bydd angen tocyn ar bob ymwelydd, ac ni fydd unrhyw docynnau ychwanegol ar werth ar y noson. Gallwch ddod o hyd i’ch e-docynnau yn eich mewnflwch neu yn eich cyfrif ar-lein yma.

⁠Faint o'r gloch fydd y Dyn Gwiail yn llosgi? 

Bydd y Dyn Gwiail yn llosgi bob nos am 8.30pm. Ewch i Gae Cilewent, lle bydd y cymeriadau ysbrydol yn dod at ei gilydd. Cymerwch ran wrth alw ar ysbrydion a gwneud dymuniad.

Pa mor dywyll fydd hi? 

Bydd goleuadau Calan Gaeaf ar hyd y safle, ond gallai rhai ardaloedd fod braidd yn dywyll. Rydyn ni'n eich argymell i ddod â thortsh, rhag ofn! Mae tortshys LED bach ar gael i’w harchebu gyda’ch tocynnau, gyda gostyngiad i ddeiliaid tocynnau.

Sut ydw i'n gwybod beth sy'n digwydd ac ymhle? 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho'r map digidol yn eich e-bost cyn y digwyddiad, gan ei fod yn bosibl na fydd y signal Wi-Fi yn Sain Ffagan yn gryf iawn. Yn ogystal, byddwn yn darparu 'taflenni adnabod' i'r plant ieuengach eu defnyddio wrth iddyn nhw chwilio am yr ysbrydion. 

Oes tocynnau gofalwyr am ddim?

Mae tocynnau Hynt ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Sicrhewch eich bod wedi cysylltu eich cerdyn Hynt gyda’ch cyfrif Amgueddfa Cymru i hawlio tocynnau am ddim i ofalwyr a chyfeillion drwy’r cynllun hwn.

A yw’r digwyddiad yn addas ar gyfer pobl niwroamrywiol neu bobl ag anableddau a/neu Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Rydym am i’r digwyddiad hwn fod mor gynhwysol a chroesawgar â phosibl i bob teulu. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocynnau i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Rydym yn cydnabod bod pawb yn profi pethau fel torfeydd, gwisgoedd, synau, goleuadau a phrofiadau annisgwyl yn wahanol. Gallwn ddarparu ardal dawel, map synhwyraidd a/neu amserlen ar gais i helpu gyda disgwyliadau ac i gefnogi ystod o anghenion a lefelau cysur.

Rydym yn annog teuluoedd neu ofalwyr i benderfynu yn seiliedig ar eu hanghenion unigol. Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm Digwyddiadau os oes gennych bryderon neu geisiadau penodol.

A fydd y Dyn Gwiail yn cael ei losgi os bydd y tywydd yn wael?

Am resymau diogelwch, ni fydd y Dyn Gwiail yn cael ei losgi mewn gwyntoedd cryfion nac amodau tywydd peryglus eraill. Rydym yn monitro’r rhagolygon yn ofalus a byddwn yn bwrw ymlaen dim ond pan fydd yr amodau’n ddiogel i fynychwyr, staff, a’r ardal gyfagos.