Cwestiynau Cyffredin Calan Gaeaf 2023
Alla i barcio ar y safle?
Gallwch. Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio am ddim ar gael. Rydyn ni wedi dyrannu'r tocynnau i'r nifer o lefydd parcio sydd ar y safle. Ceisiwch rannu car lle bo'n bosibl.
Mae cerbydau ac eiddo yn cael eu gadael ar risg y perchennog, ac nid ydyn ni'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i gerbydau na'u cynnwys. Peidiwch gadael unrhyw beth gwerthfawr yn eich car.
Am faint mae'r digwyddiad yn para?
Bydd y drysau'n agor am 6pm a'r digwyddiad yn gorffen am 9pm.
Fydd y digwyddiad yn cael ei ganslo oherwydd tywydd gwael?
Na fydd! Bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen beth bynnag fo'r tywydd! Gwisgwch ddillad priodol. Rydyn ni'n argymell welis a dillad glaw yn barod i fwynhau tywydd hyfryd Cymru. Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiad yn yr awyr agored gyda rhai gweithgareddau dan do i nifer cyfyngedig.
Oes toiledau ar y safle?
Oes, mae toiledau ar y safle – dilynwch yr allwedd ar y map.
Oes cyfleusterau newid cewynnau?
Oes, maen nhw ar gael ger y Brif Fynedfa.
Oes cyfleusterau newid cewynnau?
Ni allwn ganiatáu pramiau tu fewn i unrhyw un o'r adeiladau hanesyddol ar y safle yn ystod Nosweithiau Calan Gaeaf. Mae'r nosweithiau hyn yn tueddu i fod yn brysur gyda nifer o bobl yn symud mewn cyfeiriadau gwahanol. Byddwch yn amyneddgar wrth wthio eich pram o gwmpas llwybrau’r safle.
Alla i brynu tocyn ar y drws?
Na. Mae hwn yn ddigwyddiad lle mae angen prynu tocyn ymlaen llaw. Archebwch eich tocyn o'n gwefan
Ydych chi'n caniatáu gwisg ffansi?
Ydyn! Rydyn ni'n eich annog i ddod draw yn eich gwisg ffansi i ddychryn yr ymwelwyr. Bydd stondin paentio wyneb ar y safle i unrhyw un sydd heb wisg ffansi.
Alla i ddod â fy nghi?
Na. Gadewch eich cŵn adref ar gyfer y digwyddiad hwn os gwelwch yn dda. Gall y safle fod yn brysur iawn a gorflino eich cŵn.
Pa mor hygyrch yw'r safle?
Mae llefydd parcio penodol i ymwelwyr anabl ar gael ger y brif fynedfa. Mae cadeiriau olwyn ar gael am ddim, ar gais – y cyntaf i'r felin amdani. Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle, ond oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd.
Mae mynediad cadair olwyn i’r siopau bwyd, Y Gegin a Gweithdy.
Mae toiledau hygyrch ar gael yn y Brif Fynedfa, ger tai teras Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
Uned Lleoedd Newid: Mae dau doiled Lleoedd Newid ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Gofynnwch i aelod staff am fanylion os gwelwch yn dda.
Oes angen i mi archebu ymlaen llaw?
Oes. Prynwch eich tocyn o'n gwefan i osgoi cael eich siomi: (DOLEN)
Beth yw eich polisi ysmygu?
Ni chaniateir ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) ar y safle. Beth am y maes parcio, cyn dod i mewn?
Alla i newid fy nyddiad?
Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu’r tocynnau hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu tocynnau ar y dyddiad cywir.