Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Wedi'i Orffen
O gael gofal a chariad, mae dillad yn para. Mewn byd lle mae ffasiwn yn gyfystyr â gwastraff a gormodedd, mae angen i ni gyd chwilio am ffyrdd i newid ein harferion. Ymunwch â'r awdur Vidhi Chaudhary a'r ymgyrchydd amgylcheddol Izzy McLeood yn y gweithdy hwn, i ysgrifennu llythyr o gariad, gwerthfawrogiad neu hiraeth at eich hoff ddilledyn.
Mae pob un o ddigwyddiadau Diwrnod y Ddaear Amgueddfa Cymru wedi eu cyflwyno gan Izzy McLeod – artist, ymgyrchydd amgylcheddol, ac un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn iaith gyntaf y cyflwynwyr, sef Saesneg.