Diwrnod Agored y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol

Dyddiad: ⁠22 Gorffennaf 2023

Amser: 10am – 4pm

Pris: AM DDIM

Addas i: Teuluoedd

 

I ddathlu ei phen-blwydd yn 25, mae Canolfan Gasgliadau Genedlaethol Amgueddfa Cymru yn Nantgarw yn agor ei drysau i'ch croesawu chi am ddiwrnod diddorol i'r teulu cyfan.

Dewch i ryfeddu ar yr holl wrthrychau dan un to!

Pethau i'w Gwneud

Gweld y casgliadau sydd ddim fel arfer yn cael eu dangos i'r cyhoedd, gan gynnwys tramiau, bysys... hyd yn oed hofrennydd achub môr!

Troi eich llaw at wahanol grefftau, a chreu rhywbeth i fynd adref gyda chi.

Profi'ch hunan gyda cwis i'r teulu cyfan.

Ymuno â thaith wedi'i thywys gan un o'n harbenigwyr (addas i oed 8+).

  • Y Casgliad Trafnidiaeth – dysgwch am gerbydau o bob lliw a llun.
  • Labordy Cadwraeth – dysgwch sut fyddwn ni'n gofalu am y gwrthrychau yn y casgliad.
  • Casgliad Ffotograffiaeth – gwelwch y detholiad anferth o ffotograffau sy'n cael eu cadw yn y Ganolfan Gasgliadau, a dysgu sut i ofalu am eich ffotograffau eich hun.
  • Y Casgliad Glofaol – mwy na chaib a rhaw!

Dysgwch fwy ac archebu taith

Edmygwch arddangosiad ceir eiconig y Cardiff Classic Car Club.

Bydd cyfle i chi hefyd roi traed lan a mwynhau paned yn yr iard ar ôl hynna i gyd! Bydd lluniaeth ar gael i'w brynu, ac mae croeso i chi ddod â bwyd a diod eich hun i'w fwyta y tu allan.

Oes angen i mi archebu ymlaen llaw?

Os ydych chi am fynd ar un o'r teithiau tywys, cofiwch archebu ymlaen llaw. (Gallwch chi archebu ar y diwrnod os oes lle ar ôl.)

Does dim angen archebu unrhywbeth arall – galwch draw i ddweud helo!

Ble mae'r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol?

Rydyn ni ym Mharc Busnes Nantgarw, tua 8 milltir i'r gogledd o Gaerdydd.

Cod post: CF15 7QT

Cyfarwyddiadau o'r A470 (Gogledd):

  • Gadewch y ffordd ar gyffordd A468 Caerffili/A4054 Ystâd Ddiwydiannol Trefforest.
  • Trowch i'r chwith ar y gylchfan gyntaf, ac ar y gylchfan nesaf, dilynwch y trydydd troad i Barc Nantgarw.
  • Dilynwch Heol Crochendy a mynd yn syth dros y gylchfan gyntaf.
  • Mynedfa'r maes parcio yw'r ail droad ar y chwith.

Hygyrchedd

Ymwelwyr â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadair olwyn neu bram - oherwydd natur y safle, mae rhai rhannau o'r casgliad yn anodd eu cyrraedd.

Rhowch wybod i ni os oes gennych anghenion hygyrchedd drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.

Diolch i chwaraewyr y People's Postcode Lottery