


Y Rhaglen

Digwyddiad: Stondin Amgueddfa Cymru - Gwesty'r Vulcan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Gwesty'r Vulcan © Amgueddfa Cymru

© Rob Rowland / Amgueddfa Cymru
Lleoliad: Lawnt Oakdale (gyferbyn â 24)
Ymunwch â ni y tu allan i Westy’r Vulcan lle bydd ein curadur adeiladau hanesyddol yn rhannu’r stori am sut a pham mae gan dirnod eiconig Caerdydd gartref newydd yn Sain Ffagan!
- Cyfle i'r plant fod yn greadigol yn yr orsaf grefftau sydd wedi'i hysbrydoli gan y Vulcan.
- Dychmygwch eich hun fel ‘Y Vulcan’ a dewch yn rhan o’r gwaith celf gwreiddiol gyda’n prop llun arwydd tafarn!
- Rydym angen eich help! Rydym am gasglu a chofnodi hanes Gwesty'r Vulcan. Oeddech chi'n rhan o'r ymgyrch i achub y Vulcan, neu yno ar ei noson olaf o agor ym mis Mai 2012? Rhannwch eich atgofion a'ch lluniau gyda ni.
Rhannwch eich ymweliad a stori Gwesty'r Vulcan, helpwch i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch codi arian gan gefnogi cwblhau'r dafarn i ailagor yn 2024. Cefnogwch brosiect Gwesty'r Vulcan | Amgueddfa Cymru