7-8 Medi 2024

AMODAU TIR 

  • Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad yn yr awyr agored yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 
  • ⁠Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle.⁠ Fodd bynnag, oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd.  
  • Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau o amgylch yr Amgueddfa yn darmac neu goncrid llyfn. Mae rhai ardaloedd o'r ŵyl ar laswellt ac mae'r tir yn eithaf ansefydlog mewn mannau. Mae yna lwybrau cerrig mân a naddion coed yn cysylltu rhai ardaloedd o'r ŵyl. 
  • Mae gan yr holl fasnachwyr a stondinau bwyd ardaloedd gwastad o flaen eu cownteri. 
  • Mae'r tir ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth mewn mannau a gall fod yn drafferthus i ddefnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Mae map ar gael sy'n dangos llwybr a awgrymir ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, ac sydd hefyd yn nodi unrhyw lethrau serth. 
  • Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall rhai rhannau o'r safle fod yn fwdlyd, tan ddŵr neu'n llychlyd mewn tywydd garw, ac y gallai fod yn anodd symud o gwmpas. 

PELLTER 

  • Sylwer y bydd llawer o gerdded yn Sain Ffagan. Cewch ddod â chadeiriau i'r ŵyl. 
  • Mae prif ardaloedd yr ŵyl 580 metr o fynedfa'r Prif Adeilad.⁠ 
  • Mae'r llwyfannau, gofodau gweithgareddau, bariau a stondinau bwyd a diod yn gymharol agos i'w gilydd. 

LLOGI CADAIR OLWYN 

  • Mae cadeiriau olwyn ar gael am ddim, ar gais - cyntaf i'r felin. Gofynnwch i aelod staff yn nerbynfa'r Prif Adeilad am fanylion. 

Rydyn ni'n cynghori eich bod yn cynllunio eich taith ymlaen llaw. Ewch i'r dudalen gwybodaeth teithio ar wefan yr Amgueddfa am ragor o wybodaeth.  

 

Sylwer:

  • Mae llefydd parcio penodedig ar gyfer deiliaid bathodynnau glas o flaen y Prif Adeilad. 
  • Mae'r llefydd parcio sydd ar gael i ddeiliaid bathodynnau glas yn gyfyngedig. Bydd y maes parcio yn brysur, ac mae'n bosibl y bydd angen i chi giwio cyn cael lle. 
  • Bydd y maes parcio ychwanegol hefyd ar gael yn ystod y digwyddiad hwn. Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu fod gennych broblemau hygyrchedd cyffredinol, eglurwch i'r cynorthwyydd parcio wrth i chi gyrraedd bod angen man parcio hygyrch arnoch. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau i symud yn agosach at fynedfa'r Prif Adeilad.

GWASANAETHAU CYFIEITHU AR Y PRYD BSL

  • Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn y digwyddiad. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig a rhai cyfieithwyr ar y pryd dan hyfforddiant / gweithwyr cymorth cyfathrebu.
  • Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod. Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r Man Gwybodaeth am y Digwyddiad yn y Prif Adeilad.
  • Bydd rhai gweithgareddau a pherfformiadau yn cael eu cynnal a'u perfformio gan hwyluswyr a pherfformwyr byddar. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr Ŵyl Fwyd.
  • Bydd ardal yn y prif adeilad lle gall y gymuned B/byddar gyfarfod i gymdeithasu a gweld beth sy'n digwydd yn yr ŵyl. Siaradwch ag un o aelodau staff yr Amgueddfa neu Stiwardiaid y Digwyddiad yn y Man Gwybodaeth am y Digwyddiad, a gallant eich cyfeirio at yr ardal hon. 

DOLENNI SAIN  

  • Mae dolenni sain wedi'u gosod yn nerbynfa'r Brif Fynedfa. 

  • Mae toiledau hygyrch ar gael yn y Brif Fynedfa, Gweithdy, ger tai teras Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
  • Mae dau doiled Lleoedd Newid ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi. Dewch â'ch sling codi eich hun. Mae digon o le yn y toiled Lleoedd Newid ar gyfer y person sydd ei angen a hyd at 3 o ofalwyr. Gofynnwch i aelod staff am fanylion os gwelwch yn dda.

  • Mae dros 70 o stondinau bwyd a diod yn yr Ŵyl Fwyd. Bydd caffi, siop a bwyty'r Amgueddfa hefyd ar agor. Bydd y llefydd hyn yn brysur ac mae'n bosibl y bydd angen i chi giwio am fwyd a diod. Gall ymwelwyr ddod â bwyd a diod eu hunain i'r digwyddiad.
  • Gall y rhan fwyaf o stondinau bwyd a diod dderbyn taliadau cerdyn.
  • Mae mannau dŵr yfed ar gael ledled safle'r ŵyl ac maen nhw wedi'u nodi'n glir ar fap y digwyddiad. Mae'r rhain yn ddigon isel ar gyfer ymwelwyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sgwter. Ein nod yw lleihau gwastraff a phlastig untro yn y digwyddiad hwn. Felly, rydyn ni'n annog ymwelwyr i ddod â photeli dŵr y gallwch eu hailddefnyddio a'u llenwi'n rheolaidd yn ystod eich ymweliad. 

MANNAU GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD

  • Mae yna 2 Fan Gwybodaeth am y Digwyddiad ac mae'r rhain wedi'u nodi'n glir ar fap y digwyddiad. 

⁠1) Yn y Prif Adeilad ger y fynedfa 

2) Ym Mhabell y Farchnad Fwyd yng Nghae'r Tanerdy

  • Mae Stiwardiaid y Digwyddiad yn y ddau Fan Gwybodaeth am y Digwyddiad wedi cael eu briffio i gynnig gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae eu siacedi llachar yn eu gwneud yn hawdd i'w hadnabod. 

IECHYD A LLES

  • Mae Cymorth Cyntaf ar gael i bawb ledled y digwyddiad. Os ydych yn sâl neu angen cymorth:
  • Ewch i unrhyw un o'r adeiladau hanesyddol a thynnu sylw un o'r aelodau staff
  • Neu os ydych chi'n gallu, ewch i babell Ambiwlans St John Cymru yng Nghae Cilewent 

SWYDDOGION DIOGELWCH A STIWARDIAID

  • Yn ogystal â'r 2 Fan Gwybodaeth am y Digwyddiad, mae Swyddogion Diogelwch a Stiwardiaid y Digwyddiad wrth law ledled safle'r ŵyl. Maen nhw wedi cael eu briffio i gynnig gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae eu siacedi llachar yn eu gwneud yn hawdd i'w hadnabod.
  • Bydd Tîm Blaen Tŷ'r Amgueddfa wedi'u lleoli ledled y safle a thu mewn i'r rhan fwyaf o'r adeiladau hanesyddol. Maen nhw'n gwisgo crys polo coch neu ddu, a gellir eu hadnabod hefyd drwy eu cardiau adnabod. 

GOLEUADAU

  • Bydd goleuadau i greu effaith ar y llwyfannau cerddoriaeth ac mewn ardaloedd eraill o'r ŵyl, gyda pheiriannau niwl a mwg yn cael eu defnyddio fel bod y goleuadau yn weladwy yn ystod y dydd.
  • Ni fydd goleuadau strôb yn cael eu defnyddio ond bydd goleuadau sydd â'r gallu i fflachio'n sydyn yn cael eu defnyddio ar ein llwyfannau. Bydd rhaglennu'r goleuadau yn sicrhau bod cyfradd y fflachiau yn aros yn llai na 4 fflach yr eiliad ac am gyfnodau byr yn unig.
  • Ni fydd unrhyw lasers neu dân gwyllt yn cael eu defnyddio yn y digwyddiad hwn.
  • Cysylltwch â ni neu siaradwch ag aelod staff ar y diwrnod am fwy o wybodaeth. 

TORFEYDD MAWR

  • Rydyn ni'n disgwyl 12,000-15,000 o ymwelwyr y dydd yn y digwyddiad hwn, felly fe fydd yn brysur. Y cyfnod prysuraf yw rhwng 11am a 2pm. Os fyddai'n well gennych chi osgoi torfeydd mawr, rydyn ni'n cynghori eich bod yn ymweld â ni cyn neu ar ôl yr oriau hyn.
  • Mae gennym ni Ardal Dawel yn y Prif Adeilad ar gyfer ymwelwyr ag anableddau sydd angen lle heddychlon i orffwys a mwynhau eu bwyd ymhell o ffws a ffwdan yr ŵyl.
  • Siaradwch ag un o aelodau staff yr Amgueddfa neu Stiwardiaid y Digwyddiad yn y Man Gwybodaeth am y Digwyddiad, a gallant eich cyfeirio at yr ardal dawel hon. 

CŴN CYMORTH

  • Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol neu'r caffis.
  • Mae powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.
  • Mae 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, yn ogystal â bagiau a biniau baw cŵn wedi'u lleoli o amgylch y safle. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.

Rydyn ni bob tro'n croesawu adborth ar unrhyw faterion ynglŷn â hygyrchedd. Cysylltwch â ni a dywedwch beth fyddai'n eich helpu i fwynhau eich ymweliad a wnawn ni ein gorau i'ch helpu chi. 

E-bost: digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk 

Post: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, CF5 6XB 

Ffôn: 0300 111 2 333 

Oriau agor y swyddfa yw 9am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. 

Sylwer: ein nod yw ymateb i bob ymholiad e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith, fodd bynnag, gall hyn gymryd mwy o amser ar adegau prysur.