Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Ein Stondinwyr

12-13 Medi 2026

Ein Stondinwyr

Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 70 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol, gall ymwelwyr fwynhau detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus. O pizza i tacos, toesenni i hufen - bydd rhywbeth at ddant pawb Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.

Rhai o stondinwyr 2026:

2Greedy Catering

Dechreuodd 2Greedy Catering fel menter yn ystod Covid, gan gyflenwi brownis di-glwten i fecws lleol. Mae bellach wedi tyfu i fod yn swydd llawn amser i mi, ac rydym wedi ehangu i gynnig amrywiaeth o frownis a chacennau - pob un yn ddi-glwten!

Cradoc, Powys

Gwefan

A Bit of a Pickle

Cynnyrch cyffaith, siytni, picl a tsili cartref, a dros 50% o'r cynhwysion wedi'u tyfu o fewn 5 milltir.

Penarth, Bro Morgannwg

Gwefan

Bao Selecta

Byns Bao blasus! Enillwyr Gwobrau Bwyd Stryd Cymru a Phrydain, sydd wedi ymddangos BBC Radio Wales, BBC Cymru a Saturday Kitchen.

Caerdydd

Gwefan

Bariau Pop-yp Yr Amgueddfa

Rydym yn falch o weini lager, seidr a choctels wedi'u bragu'n lleol yn ein bariau eleni, gan ddathlu'r gorau o ddiodydd crefft Cymru. Codwch wydr gyda ni wrth fwynhau awyrgylch yr ŵyl - iechyd da!

Barti Rum

Mae Barti Spiced yn gyfuniad o rym Caribïaidd, fanila, clof, oren a gwymon lafwr wedi'i bigo â llaw o arfordir Sir Benfro. 

Sir Benfro

Gwefan

Bloom Bakery & Deli

Sleisys cacen, cacennau bisged enfawr a bariau cacen mewn amrywiaeth o flasau. 

Gŵyr

Gwefan

Cardi Bay Bangers

Selsig crefftus o safon, perffaith ar gyfer barbeciws, teithiau cerdded, neu i wledda gartref.

Aberteifi, Cardigan

Gwefan

Carrot Top Bakery

Becws teuluol a sefydlwyd yn 2018 gan Rhys, rydyn ni'n cynhyrchu cacennau a nwyddau wedi'u pobi o safon gyda phwyslais ar gynnyrch Cymreig lle bo modd.
Casnewydd
Gwefan

Caws Teifi

Cawsiau o fri wedi'u creu â llaw o'r llaeth amrwd organig gorau, o ffynonellau lleol. 

Llandysul, Ceredigion

Gwefan

Chang's Wok

Bwyd stryd wedi'i ysbrydoli gan ein ryseitiau teuluol Tseinieaidd Malay. Nwdls udon wedi'u ffrio mewn wok, cyw iâr katsu a mwy.
 
Caerdydd
Gwefan

Conscious Coffee

Coffi arbenigol, diodydd poeth a chacennau organig.

Caerdydd 

Gwefan

Cwm Deri Wines and Liqueurs

Crefft, traddodiad a safon ym mhob un botel, mae ein dewis o winoedd a gwirodydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. 

Llandovery, Sir Gâr

Gwefan

Cymru Kimchi

Mae Dosilak / Cymru Kimchi yn cynhyrchu kimchi traddodiadol Coreaidd, gan ddefnyddio bresych lleol ffres o Gymru a lafwr Cymreig i greu blasau umami cyfoethog!
 
Abertawe
Gwefan

Dirty Gnocchi

Busnes bwyd stryd Eidalaidd. Yn arbenigo mewn gnocchi wedi'i ffrio a phasta ffres wedi'i drwytho ar olwyn gaws enfawr! 

Caerdydd

Gwefan

Dirwest

Mae Dirwest yn gwmni o ddiodydd di-alcohol sy'n ddathliad o Gymreictod i gynulleidfa eang. Di-alcohol, di-glwten (o dan 20ppm) figan, calori isel a blasus.

Saint Hilari, Bro Morgannwg

Gwefan

Dragon Wales

Caws a menyn Cymreig sydd wedi ennill sawl gwobr, yn syth o'r llaethdy yng ngogledd Cymru. 

Hufenfa De Arfon

Gwefan

El Cabrón Tacos

Bwyd stryd Mecsicanaidd go iawn gan gynnwys tacos, nachos, a seigiau ochr fel elote. 

Pontypridd, Rhondda Cynon Taf

Gwefan

Ele's Little Kitchen

O galon Sbaen i'ch bwrdd, mae Ele's Little Kitchen yn gweini blasau wedi'u hysbrydoli gan fwyd heulog Murcia. Meddyliwch am paellas aromatig, tapas blasus, a seigiau wedi'u trwytho mewn traddodiad a chynhesrwydd. ¡Buen provecho.

Abertawe

Gwefan

Fire & Flank

Stêc fflanc wedi'i goginio sous vide, tatws stwnsh â garlleg, chimichurri. Enillydd y "Prif Gwrs Gorau" yng Ngwobrau Bwyd Stryd Prydain 20021 ac yn ail yng Ngwobrau Bwyd Stryd Cymru 2025.

Caerdydd

Gwefan

Fudge Pots

Cyffug moethus wedi'i wneud â llaw. Blasau Gwreiddiol, Fegan a Sbeislyd. Cyffug, ond ar ei newydd wedd!

Y Bont-faen, Bro Morgannwg

Gwefan

Gilly's Coffee

Coffi barista, diodydd poeth, a dewis o gacennau. 

Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr

Good and Proper Brownies

Brownis cartref amheuthun mewn amrywiaeth o flasau. 

Caerfyrddin

Gower Doughnut Co.

Rydym yn gwneud toesenni moethus. Mae'r toes, y llenwadau a'r topins i gyd yn cael eu gwneud â llaw yn ein becws bach gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig lleol.

Abertawe

Gwefan

Gower Preserves

Cynhyrchydd bach yn creu cyffeithiau â llaw - jamiau, siytni, finegr ffrwythau - yn ardal hyfryd Penrhyn Gŵyr. 

Gŵyr

Gwefan

Hogi Hogi Hogi

Porc Cymreig, wedi'i goginio'n araf dros 16 awr. Rholiau porc a sglodion blasus wedi'u llwytho gyda phorc. 

Caerdydd

Gwefan

I Spy Pies

I Spy Pies: wedi'u gwneud â llaw gyda chariad a threftadaeth. Rydym yn defnyddio cynnyrch Cymreig a'u paratoi'n ffres ar gyfer yr ŵyl. Dewch i flasu ein pastai!

Y Barri, Bro Morgannwg

Gwefan

Ice Green

Hufen iâ fegan wedi'i wneud â llaw o'r cynhwysion lleol gorau, gyda chynaliadwyedd wrth wraidd ein hethos.
 
Aberteifi
Gwefan

Keralan Karavan

Rydym yn falch o ddod â blasau o fwydydd De India i chi gan ddefnyddio'r cyfuniad traddodiadol o sbeisys mewn ffordd fodern, unigryw a hwyliog. 

Caerdydd

Gwefan

Let Them See Cake

Cacennau chwethus ar gyfer unrhyw achlysur. Rydym hefyd yn gweini brecinio, te prynhawn tymhorol, cacennau bach, bisgedi, macarons a danteithion eraill.
 
Caerdydd
Gwefan

Little Grandma's Kitchen

Rydyn ni'n gwneud Siytni, Marmalêd, Ceuled, Cyffeithiau, Mwstard a Thaenau arobryn yn seiliedig ar ryseitiau teuluol gwreiddiol gan ein neiniau a theidiau.
 
San Clêr, Sir Gaerfyrddin
Gwefan

Mallows Beverages

Busnes teuluol o Gymru yw Mallows Beverages sy'n cynhyrchu gwirodydd arobryn gan gynnwys jin, bwrbon, rym a fodca.

Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf

Gwefan

Marie Cresci Cheesecakes

Rydym yn gwneud cacennau caws catref mewn potiau unigol. Mae gennym dros 40 o flasau ac rydym yn cyflenwi 30 o siopau gyda dewis o flasau gwahanol. 

Rhydaman, Sir Gâr

Gwefan

Meat and Greek

Bwyd stryd Groegaidd go iawn; souvlaki wedi'i olosgi yn ffres. 

Y Barri, Bro Morgannwg

Gwefan

Mountain Mead

Y medd gorau wedi'i grefftio â llaw gan ddefnyddio mêl a chynhwysion o'r safon uchaf. 

Bangor, Gwynedd

Gwefan

Mr Croquewich

Yn gweini cyw iâr â chrwst Parmesan wedi'u ffrio a brechdanau caws wedi'u grilio yn llawn o lenwadau cartref, sawsiau a mynydd o gaws! 

Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf

Gwefan

My Pet Treats

Rydyn ni wrth ein boddau'n dod o hyd i'r danteithion perffaith i'ch ci, gyda phopeth wedi'i bobi gartref gan ddefnyddio cynhwysion ffres a naturiol. Galwch heibio iddyn nhw gael eu blasu.

Swydd Henffordd

Gwefan

Mycobio

Trwythau madarch ffwythiannol o'r Mynydd Du, yn gloywi madarch ar gyfer ffordd o fyw iachach.
 
Rhydaman
Gwefan

Pettigrew Bakeries

Becws crefft lleol, yn gwneud bara surdoes a theisennau crwst â llaw. 

Caerdydd

Gwefan

Popty Cara

Yn gwerthu Bara Brith, Pice ar y Maen, Torth Sinsir, Teisen Seidr Ralph, Teisen Ffrwythau Heb Siwgr Ychwanegol, Fflapjacs Fegan a Traybakes blasus eraill. 

Sir Benfro

Gwefan

Sumptuous Bakery

Becws arobryn Great Taste sy'n defnyddio cynhwysion organig Cymreig yn ein cynnyrch. Mae ein becws yn cynhyrchu clasuron blasus yn ogystal â chynnyrch modern.
 
Rhydaman
Gwefan

The Artisan Portugese Pastry Bakery

Tartenni cwstard traddodiadol Portiwgalaidd. 

Caerdydd

Gwefan

The Bearded Taco

Mae The Bearded Taco yn gweini tacos ffres, blasus ar tortillas corn wedi'u rholi â llaw, o hen gerbyd heddlu wedi'i haddasu o'r enw Contessa.

Y Bontfaen

Gwefan

The Dragon's Melt

Yr unig werthwr bwyd stryd caws pôb Cymreig (rarebit) yng Nghymru, yn cynnig fersiwn fodern o'r saig draddodiadol hon gan ddefnyddio ein rysáit ein hunain.
 
Brynbuga, Sir Fynwy
Gwefan

The Real Ting

Mae The Real Ting yn dod â bwyd Jamaicaidd i chi, wedi'i ysbrydoli gan ryseitiau teuluol a'n hangerdd dros rannu diwylliant trwy fwyd. 

Caerdydd 

Gwefan

Tidy Tea

Paned go iawn, Tidy! Cymysgeddau beiddgar, dim plastig ac ychydig o hud Cymreig ym mhob llymaid.

Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Gwefan

Usk Valley Cheese Company

Mae Usk Valley Cheese Company yn cynhyrchu caws crefftus sydd â'i wreiddiau yn nhreftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog Dyffryn Wysg. Rydym yn cynhyrchu cawsiau lled-galed sy'n dathlu hanes, blasau a thraddodiadau lleol.

Casnewydd

Gwefan

Woolla Woolla Handmade

Codennau bwyd, lapiau a hanfodion cegin ailddefnyddiadwy ecogyfeillgar, wedi'u gwneud yng Nghymru.

 

Cymmer, Castell Nedd Port Talbot

Gwefan