Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
9-10 Medi 2023

Gwneud Cais

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru.

Gyda thros 80 o stondinau yn cynnig detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, mae rhywbeth at ddant pawb!

 

Ydych chi’n fusnes bwyd a diod ac â diddordeb mewn ymgeisio am stondin?

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer stondinwyr yr Ŵyl Fwyd yn agor ym mis Ionawr bob blwyddyn. I dderbyn ffurflen gais ar gyfer digwyddiad 2024 pan gaiff ei gyhoeddi a gwybodaeth am gyfleoedd eraill yn y dyfodol, cliciwch ar y ddolen isod i gyflwyno eich manylion cyswllt.

Cofrestru

Yr Ŵyl

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.   

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

 

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 9-10 Medi 2023. 

 

Cefnogwyd digwyddiad 2022 gan Gronfa Adfer Gwyliau Bwyd 2022 Bwyd a Diod Cymru

Cefnogwch Ni

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu oll! 

Elusen ydyn ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod â chymunedau ynghyd, a bod yn lle i greu atgofion. 

⁠Os ydych chi’n teimlo’r un fath, cyfrannwch heddiw er mwyn cadw stori Cymru’n fyw i bawb ei mwynhau am ddim.  

Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr - diolch. 

Rhoi heddiw