7-8 Medi 2024

Digwyddiad: Perfformiadau Crwydrol The Flying Squad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
9 a 10 Medi 2023, 11am-3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd All

Taking Flight

Mae gan ein ditectifs truan drosedd i’w datrys, ond mae tystiolaeth y llygad-dystion i gyd yn eu harwain at un casgliad yn unig, sef mai un ohonyn nhw yw’r troseddwr. A fyddan nhw’n datrys y drosedd? A fyddan nhw’n dychwelyd i’r orsaf mewn pryd i ginio? Ac yn bwysicaf oll, a fu trosedd o gwbl yn y lle cyntaf?
 
Darn llawn hwyl, comedi golbio a chyfranogiad cynulleidfa yw hwn. Byddwch yn barod am hen ddigon o chwarae ditectif hurt yng nghwmni Carfan Wib y Flying Squad. Darn clownio crwydrol di-eiriau digrif dros ben yw The Flying Squad.
 

Mwy am Gwmni Theatr Taking Flight

Yma yn Taking Flight rydym yn creu cynyrchiadau theatr eofn ac anghyffredin gyda pherfformwyr sy’n Fyddar, yn anabl, a heb fod yn anabl.
 
Ein Cenhadaeth... yw dinistrio’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag cymryd rhan yn y theatr, gan wthio’n ddibaid yn erbyn yr hyn sy’n eu hatal rhag bod yn greadigol. Ein nod yw hybu cynrychiolaeth pobl Fyddar ac anabl yn y theatr trwy lefelu’r llwyfan. Dymunwn newid tirwedd y celfyddydau yng Nghymru a’r tu draw trwy herio eraill i feddwl mewn ffyrdd mwy cynhwysol.
 
Digwyddiadau