Hannan Jones
Artes Mundi ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
BYWGRAFFIAD
Mae Hannan Jones yn ymchwilio i syniadau sy'n ymwneud â hybridedd, iaith, rhythmau diwylliannol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â mudo, a seico-ddaearyddiaeth. Trwy sain, cerfluniau, gosodiadau, a delweddau symudol, mae'n ceisio meithrin 'teimlad o undod' gan greu gofodau i ehangu gorwelion. Enillodd Wobr Oram yn 2023 ac mae wedi graddio o Ysgol Gelf Glasgow, ac ymhlith ei phrojectau rhyngwladol blaenorol mae olrhain mudiadau rhyddid barn; taflu goleuni ar dactegau goroesi ac edrych ar ffyrdd o ddefnyddio a meddiannu mannau cyhoeddus er mwyn gwyrdroi ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol. O ran sain, mae'n defnyddio dulliau byrfyfyr, offer electronig, musique concrète a recordiadau analog, gan ddefnyddio samplau a haenu seiniau i greu naratifau amgen ac adennill hanesion paralel.
DISGRIFIAD
Mae 'Ffin Dreiddgar' yn edrych ar sut mae ffiniau symudol yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle. Dyma drioleg o ffilmiau byr, sy'n cychwyn yn archif danddaearol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, ac yn dangos arteffactau sy'n ymgorffori sawl naratif, gan godi cwestiynau am sut mae'r eitemau hyn yn siapio cof ar y cyd a hanesion ar chwâl. Mae'r ail ffilm yn camu allan o'r archif ac yn cael ei yrru gan y seinweddau sydd o'n cwmpas, tra mae'r trydydd yn canolbwyntio ar elfennau wybrennol sydd wedi eu defnyddio ers cyn cof i arwain a llywodraethu pobl. Mae llestri clai newydd a grëwyd drwy ymgysylltu â'r gymuned yn arwain at fyfyrdodau ystyrlon ar y presennol a'r dyfodol, ac mae seinwedd benodol i'r safle yn cyfuno'r gorffennol a'r presennol i ehangu potensial dychmygol.
DYFYNIAD
"Roedd Safbwynt(iau) yn taro tant â fy nghefndir diasporaidd innau, ac yn caniatáu i mi blethu hanesion mudo ac Ymerodraeth. Gan fy mod yn Gymreig a Gogledd Affricanaidd ond wedi fy magu yn Awstralia, mae gen i gyswllt dwfn â mudo cymdeithasol a diwylliannol, creu cymuned ac adrodd straeon."