Sophie Mak-Schram

Canolfan Gelfyddydau Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

BYWGRAFFIAD

Mae'r radicaliaeth sy'n bosibl yn yr 'ac' rhwng celf ac addysg yn bwysig i Sophie Mak-Schram. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf. Mae ei gwaith yn cwmpasu addysg brofiadol, ymarfer ar y cyd ac ymchwil (artistig). Mae'n dod â phobl ynghyd, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando, ac mae'n hwyluso ac yn perfformio.

DISGRIFIAD

Mae Sophie yn canolbwyntio ar rym – pwy sydd â'r grym, sut mae'n gweithio a beth mae'n ei wneud – o fewn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Trwy weithio gydag ystod o bobl – ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid, staff amgueddfa – maen nhw'n datblygu 'offer' cydweithio. Mae’r ‘offer’ yn amrywio o dempledi hygyrchedd i ddarnau sain a megaffonau wedi’u haddasu, ac yn ymyrryd yn y strwythurau grym er mwyn cynnig dulliau neu gyfleoedd i ddysgu ar y cyd neu gydweithio yn decach. Bydd yr 'offer' yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau allweddol o gasgliad yr amgueddfa y mae Sophie a'i chydweithwyr wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys y Casgliad Allestyn Ysgolion a'r coridor Celf Asiaidd. Byddan nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Cymru o fis Mai 2025 ymlaen ac yn Chapter o fis Medi 2025 ymlaen.

DYFYNIAD

"Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys gwyrdroi nifer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gorthrymu'r rhan fwyaf ohonom. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol? Rydw i wedi bod yn gweithio ar themâu yn ymwneud â'r cwestiwn yma yn fy ngwaith artistig ac academaidd ers amser hir, ac mae'n gyffrous i fod nawr yn gweithio yn benodol ar safbwynt Cymreig, a Chaerdydd yn benodol, sy'n ddinas a chanddi lawer o hanesion cymhleth."