Jasmine Violet

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Lechi Cymru

BYWGRAFFIAD

Dechreuodd Jasmine ei thaith artistig yn sîn gelf gyffrous Cymru wedi iddi raddio o'r ysgol gelf yn 2020. Ers hynny, mae wedi bod yn astudio PhD yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ac wedi cymryd rhan mewn amryw brojectau ar y cyd fel Safbwynt(iau) gan arddangos ei gwaith ar draws y wlad. Mae cymhlethdodau psyche, hunaniaeth a meddyliau'r isymwybod yn dylanwadu ar waith Jasmine, ac mae hi'n trafod themâu iechyd meddwl a'i hunaniaeth fel dynes ddu o fewn diwylliant Cymreig a Phrydeinig. Mae hi'n artist rhyngddisgyblaethol ac mae ei repertoire creadigol yn cynnwys popeth o ffotograffiaeth Polaroid i brintiau cyanoteip arbrofol a phaentio olew.

DISGRIFIAD

Bydd project 'Lluosogrwydd' yn canolbwyntio ar bwysigrwydd pobl liw i'r gymuned Gymreig ac effaith amrywiaeth ar Gymru, trwy ymgysylltu â chymunedau er mwyn archwilio'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth trwy lens gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol, trwy gyfrwng sgyrsiau a gweithdai. Dawns a pherfformiad yn seiliedig ar symud yw 'Haen o Siwgr' sy’n ymateb i'r hyn a wyddom a'r gwirioneddau cudd yng Nghymru a chysylltiadau'r diwydiant llechi â'r fasnach drawsiwerydd mewn pobl. Yn y perfformiad, mae Jasmine yn datgymalu penddelwau sydd wedi'u creu o siwgr gludiog sy'n weledol yn y tywyllwch.

DYFYNIAD

"Fe ddes i'n rhan o raglen Safbwynt(iau) am ei fod yn gam allweddol tuag at gefnogi artistiaid a chymunedau yng Nghymru sydd wedi'u hymyleiddio, yn agor trafodaeth hanfodol am ddad-drefedigaethu, ac yn gyfle i ddangos a dathlu lleisiau a phrofiadau amrywiol. Rydw i'n gobeithio creu projectau sy'n rhoi cefnogaeth barhaus i gymunedau, gan greu amgylchfyd mwy gonest a chynhwysol i bawb yng Nghymru.”

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL / GWEFAN

Instagram:https://www.instagram.com/jasmine.violet_art/

Gwefan:https://www.jvart.co.uk/