Sadia Pineda Hameed
Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
BYWGRAFFIAD
Artist ac awdur Ffilipina-Bacistanaidd yw Sadia Pineda Hameed. Mae hi'n byw ac yn gweithio yng Nghwm Ebwy ac yn canolbwyntio ar drawma cyfunol a thrawma sy'n pontio cenedlaethau trwy ddefnyddio strategaethau gwrth-drefedigaethol fel breuddwydio, cymundeb delepathig a chyfrinachau. Gan ddefnyddio ffilm, gosodiadau a pherfformiad yn ogystal ag ymchwil i ddulliau cyfalafol a threfedigaethol fel lladd systemau gwybodaeth ac eco-laddiad, mae ei gwaith yn dychmygu sut beth allai dulliau'r dyfodol mewn perthynas â gwrthsefyll, gwerth a chyfathrebu fod yn seiliedig ar y strategaethau hyn. Mae ei gwaith yn cynnwys creu mythau a melodrama fel dulliau chwareus, gan drochi gwylwyr mewn disgwrs dryslyd lle mae archifau personol a phrofiadau cyfunol yn cydblethu, gan ein hannog i adlewyrchu ar lefel ddyfnach am ein hanesion a hunaniaethau a rennir.
DISGRIFIAD
Gan weithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, mae Sadia Pineda Hameed wedi datblygu corff newydd o waith sy'n edrych ar sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn undod â mudiadau rhyngwladol heddiw. Trwy ystyried y casgliad, sgyrsiau a chymuned yr amgueddfa trwy lens gwrth-drefedigaethol, gwrth-gyfalafol ac ecolegol, mae Sadia yn creu cysylltiadau rhwng hanes mwyngloddio a streicio Cymru â mudiadau llafur ar draws y byd heddiw.
DYFYNIAD
"Mae'r project yn edrych ar strategaethau gwrthsafiad streiciau mwyngloddwyr Cymru - oedd yn brwydro dros hawliau gweithwyr, ac i warchod tir, diwylliant a chymuned - a sut y daeth y rhain yn symbolau o gefnogaeth ryngwladol i streicwyr heddiw."
CYFRYNGAU CYMDEITHASOL / GWEFAN
Instagram:https://www.instagram.com/sadiaph/
Gwefan:https://sadiaph.com/