Lucille Junkere

Amgueddfa Wlân Cymru

BYWGRAFFIAD

Mae Lucille Junkere yn artist sy’n creu celf gweledol yn seiliedig ar ymchwil. Mae’n arbenigo mewn pigmentau botanegol ac ocr, tecstilau cynaliadwy a brodwaith. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar effaith trefedigaethu ar hanes tecstilau Affricanaidd Caribïaidd. Un peth sy’n etifeddiaeth parhaus yw dinistrio systemau gwybodaeth Affricanaidd brodorol. Mae'r anfeddiant corfforol, emosiynol ac ysbrydol a achoswyd gan y fasnach gaethweision drawsiwerydd yn golygu bod hunaniaethau hynafol a diwylliannol wedi'u torri. Mae Lucille yn archwilio gorffennol sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth eiddo gan ddefnyddio materoldeb brethyn, symbolaeth weledol, pigmentau botanegol ac ocr, yn enwedig y pigment y mae'n ei garu - indigo - i ystyried colled, galar, hiliaeth, iachâd, ymwrthedd ac ailgysylltiad diwylliannol.

DISGRIFIAD

Roedd Welsh Plains, a elwir hefyd yn frethyn Negro, yn decstil gwlân o ansawdd isel a wehyddwyd yng nghanolbarth Cymru rhwng 1650 ac 1850. Defnyddiodd masnachwyr Prydeinig y ffabrig i brynu a gwisgo caethion Affricanaidd a oedd wedi'u herwgipio i weithio ar blanhigfeydd yn America a'r Caribî yn ystod y fasnach gaethweision draws-Iwerydd. Mae Lucille yn ystyried rôl Welsh Plains yn atal a gwadu hunaniaeth ddiwylliannol Affricanaidd caethweision. Mae wedi'i hysbrydoli gan fasgiau Gorllewin a Chanolbarth Affrica ac arteffactau diwylliannol eraill, ac mae'n archwilio treftadaeth Akan, Ashanti, Yorùbá, Igbo, Ibibio, Éwé a Bantu y bobl a gaethiwwyd i weithio ar blanhigfa fwyaf proffidiol Prydain, Jamaica.

DYFYNIAD

"Fe wnes i gais i Safbwynti(au) i ymateb i Welsh Plains. Er bod ymchwil gwerthfawr yn bodoli ar y deunydd, mae safbwynt y rhai a oedd yn gorfod gwisgo'r brethyn gwlân anghyfforddus a chrafog ar goll. Roeddwn i eisiau cyflwyno dull artistig a churadurol nad yw'n lleihau erchyllterau'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn hytrach, roeddwn i eisiau creu arddangosfeydd a naratifau cymhellol sydd ddim yn cyflwyno fersiynau dymunol o hanes ond sy'n datgelu straeon lluosog wrth ymhelaethu a dathlu lleisiau ymylol."

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL / GWEFAN

Gwefan:https://lucillejunkere.com/

Instagram:https://www.instagram.com/lucillejunkere/