Gweithgareddau

Gallwn addasu ein gweithgareddau dysgu; os ydych yn ymweld ag un o'n Hamgueddfeydd am weithdy neu'n cymryd rhan mewn Gweithdy Rhithiol.

Edrychwch ar y gweithgareddau dysgu a gynigir yn yr amgueddfa yr hoffech ymweld â hi, yna siaradwch â'n staff pan fyddwch yn archebu. Byddant yn holi am anghenion eich grŵp ac unrhyw addasiadau y mae angen i ni eu gwneud.

Oes angen i ni:

  • Addasu cynnwys, neu dull trosglwyddo’r sesiwn: cyflymder, iaith, cynnwys, gweithgareddau, gwisgoedd, pethau i osgoi/annog?  

  • Creu amserlen fwy hyblyg?  

  • Pylu goleuadau neu dawelu sain lle gallwn ni?