Canllawiau Mynediad ar gyfer Grwpiau - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Plan yn cymryd rhan yn gwersyll rhufeinig

Rhaid i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol. Yn gyffredinol, rydyn ni'n llawn 2 fis ymlaen llaw.

Defnyddiwch y Stori weledol: Taith i Gaerllion y Rhufeiniaid i gynllunio eich ymweliad.⁠

Gallwch chi hefyd Archwilio Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn 360° i helpu i baratoi'r disgyblion am eu hymweliad.

Anghenion dysgu ychwanegol

Ar gyfer archebion ymlaen llaw, gallwn ni greu amserlen fwy hyblyg a chyfyngu'r niferoedd yn ein horiel, gardd a llefydd dysgu. Gallwn ni hefyd leihau goleuadau neu synau yn ein horielau.⁠

Gallwn ni addasu cynnwys gweithdy neu weithgaredd, neu'r dull cyflwyno, ar gais.

Galwad fideo i groesawu.

Gallwn ni drefnu galwad fideo byr i groesawu eich disgyblion gydag aelod o'n tîm addysg. Bydd hwn yn rhoi cyfle i'r disgyblion ofyn cwestiynau a helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am yr ymweliad.

Ymweliadau rhithiol.

Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o ymweliadau rhithiol am ddim, y gallai eich disgyblion gymryd rhan ynddyn nhw cyn neu ar ôl ymweld â'r Amgueddfa. Fel arfer, mae'r rhain yn para rhwng 45 munud ac awr – ond gallwn ni eu haddasu ar gais. Maen nhw'n rhoi cyfle i'r disgyblion edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg, Saesneg a BSL.

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

Mae lle parcio bysiau gyferbyn â'r Amffitheatr, tua 400 metr i lawr y stryd o’r Amgueddfa.

Ceir mannau parcio 50 llath o ffrynt yr amgueddfa i lawr y stryd gerllaw. Nid yw'r rhain wedi'u cadw ar gyfer pobl sydd â bathodynnau oren.

Mae ffordd i bobl mewn cadeiriau olwyn neu rai â choetsis babanod/plant bach ddod i mewn i'r amgueddfa i'r dde o'r grisiau yn y tu blaen. Ceir mynedfa wastad i'r amguedddfa, trwy ddrysau gwydr.

Gellir mynd i'r Oriel a lefel isaf yr Oriel mewn cadair olwyn gan ddefnyddio ramp.

Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio os gofynnwch amdani. Er na ellir trefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r gadair hon ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.

Ceir seddau yma a thraw yn yr Oriel.

Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn gyfyngedig yng Nghanolfan Capricorn. Mae ramp cludadwy ar waith, gofynnwch i aelod o staff wrth y Ddesg Flaen a byddant yn gosod y ramp. Fel arall, gellir cael mynediad i'r Ystafell Barics drwy ddefnyddio 4 cam, neu drwy ddefnyddio drws ochr y tu allan i flaen yr amgueddfa. Bydd y staff yn sicrhau bod y fynedfa hon ar gael ar gais.

Llawr gwastad sy'n arwain i'r adeilad cyswllt.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

Mae llawlyfrau print mawr ar gael i'w benthyg am ddim. Gofynnwch wrth y fynedfa.

Mae gan aelod o’r tîm addysg hyfforddiant Vocalise. Gofynnwch wrth archebu.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

Mae defnyddiau ysgrifenedig o safon uchel ar gael yn yr Oriel i gyd—fynd â'r casgliadau.

Mae gan ein holl staff hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth anghenion pobl fyddar.

Portable audio loops are available at the front desk and can be taken into workshop spaces.

Mae cynnwys fideo BSL ar gael ar gyfer ein holl ymweliadau rhithiol a gellir defnyddio rhai ohonyn nhw i gyflwyno ein sesiynau wyneb yn wyneb.

Anghenion dysgu ychwanegol

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant Ffrindiau Dementia.

Gellir trefnu teithiau dementia-gyfeillgar ar gyfer grwpiau ymlaen llaw.

Ymwybyddiaeth Dementia

Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant Ffrindiau Dementia.

Gellir trefnu teithiau dementia-gyfeillgar ar gyfer grwpiau ymlaen llaw.

Cŵn

Cŵn cymorth yn unig a ganiateir ar y safle.

Gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci wrth y dderbynfa.

Rhaid iddyn nhw fynd oddi ar y safle i wneud eu busnes ond bydd staff yr amgueddfa ar gael i helpu ar gais.

Toiledau a llefydd i newid.

Mae un tŷ bach â mynediad i bobl anabl, gyda lle i newid babanod, yn Oriel yr Amgueddfa. Mae tai bach i ddynion a menywod sy’n addas i blant yng Nghanolfan Capricorn yn ogystal â thŷ bach i’r anabl gyda chyfleusterau babanod. Y tu allan, mae tioled cyhyhoeddus drws nesaf i’r Amffitheatr.

Does dim lle newid penodedig ar gyfer plant neu oedolion, ond gallwn ni addasu llefydd ar gais.