Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Archebwch bythefnos ymlaen llaw os yn bosib ar gyfer grwpiau.

Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ar gyfer archebion ymlaen llaw, gallwn ni greu amserlen fwy hyblyg ac addasu cynnwys gweithdai.

Ymweliadau Rhithiol

Rydyn ni'n cynnig nifer o ymweliadau rhithiol am ddim, y gall eich disgyblion gymryd rhan ynddyn nhw cyn neu ar ôl ymweld â'r Amgueddfa. Fel arfer, mae'r rhain yn para rhwng 45 munud ac awr.  Maen nhw'n rhoi cyfle i'r disgyblion edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa.  Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg, Saesneg a BSL.

Ymwelwyr â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadair olwyn neu bram

  • Gall bysiau godi a gollwng grwpiau o flaen yr Amgueddfa. 

  • Mae mannau parcio ar gyfer pobl â Bathodynnau Glas yng nghefn y Maes Parcio Ymwelwyr oddi ar Rodfa'r Amgueddfa. Mae parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas.   

  • ⁠Os nad ydych chi'n gallu defnyddio'r grisiau i gyrraedd yr Amgueddfa, mae ramp hygyrch ym mlaen yr adeilad.

  • Mae mynediad i gadeiriau olwyn ym mhob oriel. Gallwch chi gyrraedd y rhan fwyaf o’r orielau eich hun, ond rhaid i Gynorthwy-ydd Oriel weithio lifftiau i rai orielau am resymau diogelwch. Mae arwyddion sy'n nodi ble mae pob lifft a sut mae'n gweithio. Bydd aelod o staff wrth law i helpu.

  • Mae pedair cadair olwyn a chwe ffon eistedd ar gael i'w benthyg o'r Dderbynfa. Mae nifer cyfyngedig o lefydd a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.

  • Darperir amrywiaeth o seddi drwy’r Amgueddfa.

  • Mae lefel y llawr yn newid drwy arddangosfa Esblygiad Cymru, ac yn rhai o'r orielau Hanes Natur - cymerwch ofal.⁠

  • Mae mynediad i gadeiriau olwyn i’r Siop, y Siop Goffi a Bwyty Oriel.

Ymwelwyr dall a rhannol ddall

  • Bydd teithiau Disgrifiad Sain wedi eu rhestru ar dudalennau 'Digwyddiadau' y wefan.

  • ⁠Mae elfennau sain yn rhan o rai arddangosfeydd yn orielau Hanes Cymru, Hanes Natur, a Dyn a'r Amgylchedd.

  • Mae arddangosiad pren all gael ei gyffwrdd yn ardal coetir yr orielau Hanes Natur.

  • ⁠Weithiau, bydd Gwirfoddolwyr yn yr orielau gyda gwrthrychau i'w trin a'u trafod. Gofynnwch yn y Dderbynfa a oes troli trin a thrafod gwrthrychau yn yr orielau ar y diwrnod. 

  • Mae rhai o'r tîm Addysg wedi derbyn hyfforddiant Vocaleyes. Gallwch chi wneud cais am staff sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer eich grŵp.

⁠Ymwelwyr b/Byddar

  • Mae Cylch Clywed ar gael yn oriel Esblygiad Cymru, wrth y Dderbynfa, y Siop, y Bwyty a'r Siop Goffi, a Darlithfa Reardon Smith. 

  • Mae cylch clywed symudol ar gael yn yr ystafelloedd cyfarfod ac addysg.

  • Mae deunydd ysgrifenedig o safon yn cefnogi'r casgliadau yn y rhan fwyaf o orielau ac arddangosfeydd.

  • Mae rhai o'r tîm Addysg wedi derbyn hyfforddiant BSL sylfaenol. Gallwch chi wneud cais am staff sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer eich grŵp.

Ymwybyddiaeth Dementia

Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant Ffrindiau Dementia.

Cŵn

  • Dim ond cŵn tywys gaiff eu caniatáu yn yr Amgueddfa.

  • Mae dŵr yfed ar gael o Fwyty Oriel neu'r Siop Goffi.

  • Rhaid i gŵn adael yr Amgueddfa i wneud eu busnes, a gall staff helpu i ganfod lle addas.

Toiledau a Lleoedd Newid

  • Mae toiledau anabl hygyrch ar y llawr isaf ger y Bwyty (Lefel 1), ac yn Oriel 21.

  • Mae toiled 'Lleoedd Newid' gyda hoist ar gael hefyd. Gofynnwch i'r Cynorthwywyr Amgueddfa am gyfarwyddiadau.