Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae angen i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol.
DefnyddiwchStori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) i gynllunio eich ymweliad.
Gallwch chi hefyd Archwilio Sain Ffagan mewn 360° i helpu i baratoi dysgwyr am eu hymweliad.
Anghenion dysgu ychwanegol
- Gallwn ni greu amserlen fwy hyblyg ar gyfer grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw, a threfnu ystafell frechdanau ar wahân, lle bo modd.
- Os ydych chi'n poeni am lefelau golau a sain, cysylltwch â ni er mwyn trafod beth allwn ni ei wneud.
- Gall yr adeiladau hanesyddol fod yn dywyll iawn, gyda nenfydau isel a thanau. Gallwn ni addasu rhai pethau mewn sesiynau er mwyn cefnogi anghenion synhwyraidd. Er enghraifft, gallwch chi ofyn i ni beidio cynnau'r tân yn nhi crwn Oes yr Haearn Bryn Eryr yn ystod eich gweithdy.
- Gallwn ni addasu cynnwys gweithdy neu weithgaredd, neu'r dull cyflwyno, ar gais.
- Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion, ac unrhyw addasiadau i gefnogi eich dysgwyr.
- Gallwch chi brynu map o'r safle o'r dderbynfa, sy'n cynnwys gwybodaeth am lwybrau hygyrch.
- Mae mapiau mawr o’r safle yma a thraw yn yr Amgueddfa hefyd.
- Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Galwad fideo i’ch croesawu
Gallwn ni drefnu galwad fideo byr gydag aelod o'n tîm addysg i groesawu eich dysgwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ofyn cwestiynau a helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am yr ymweliad.
Ymweliadau rhithiol
Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o ymweliadau rhithiol am ddim, y gall eich dysgwyr gymryd rhan ynddyn nhw cyn neu ar ôl ymweld â'r Amgueddfa. Fel arfer, mae'r rhain yn para rhwng 45 munud ac awr – ond gallwn ni eu haddasu ar gais. Maen nhw'n rhoi cyfle i'r dysgwyr edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg, Saesneg a BSL.
Ymwelwyr â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadair olwyn neu bram
- Mae llefydd parcio penodol i ymwelwyr anabl ar gael ger y brif fynedfa.
- Mae cadeiriau olwyn ar gael am ddim, ar gais – cyntaf i'r felin.
- Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle, ond, oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd.
- Cysylltwch ag aelod o'r tîm archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am fynediad i’r adeiladau. Mae rhagor o wybodaeth am yr adeiladau hanesyddol yma: Y Safle | Amgueddfa Cymru
- Mae'r tir ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth mewn mannau a gall fod yn drafferthus i ddefnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Mae map ar gael sy'n dangos llwybr a awgrymir ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, ac sydd hefyd yn nodi unrhyw lethrau serth. Gall ymwelwyr hefyd archebu'r bygi, fydd yn cael ei yrru gan aelod o dîm yr Amgueddfa, i’w gollwng ar bwys y Gerddi Eidalaidd. Rhaid archebu'r bygi pythefnos ymlaen llaw, ac mae lle i 5-6 o bobl. Cysylltwch â switsfwrdd yr Amgueddfa i archebu.
- Mae mynediad cadair olwyn i'r mannau bwyta, Y Gegin a Gweithdy.
Ymwelwyr dall a rhannol ddall
- Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw mwynhau synau ac aroglau safle mor amrywiol, o fara ffres a thanau coed, i'r anifeiliaid ar y fferm.
- Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'n hadeiladau, ac mae nifer o grefftau a dangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd ein staff yn hapus i esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.
- Gall rhai mannau o'r safle beri trafferth i ymwelwyr â nam ar eu golwg, megis y nant a'r llynnoedd. Gallwch chi holi am gyngor wrth y Dderbynfa yn y Neuadd Groeso cyn mynd allan i'r safle.
- Mae gan aelodau'r tîm brofiad o gynnal teithiau disgrifiad sain, a thywys ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg. Gofynnwch wrth archebu.
- Ymwelwyr Byddar a Thrwm eu Clyw
- Mae deunyddiau ysgrifenedig o safon yn yr orielau sy'n cyd-fynd â'r casgliadau.
- Mae llawer o’n staff wedi cwblhau hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth anghenion pobl fyddar.
- Mae gennym ni gynnwys fideo BSL ar gyfer ein hymweliadau rhithiol, a gellir defnyddio rhai ohonyn nhw i gyflwyno ein sesiynau wyneb yn wyneb.
- Mae bwrdd gwybodaeth y tu allan i bob adeilad.
- Mae dolenni sain cludadwy ar gael wrth y ddesg addysg ac yn y Stiwdios. Gallwch chi eu defnyddio yn y gofodau gweithdy hefyd.
Ymwybyddiaeth Dementia
- Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant Ffrindiau Dementia.
- Gellir trefnu teithiau dementia-gyfeillgar ar gyfer grwpiau ymlaen llaw.
Cŵn
- Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol neu'r caffis.
- Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr drwy'r amser.
- Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.
- Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.
- Mae dau fin baw cŵn ar y safle.
Toiledau ac Uned Lleoedd Newid
- Mae toiled anabl yng Nghanolfan Ddysgu Weston ac mae bloc toiledau gyda thoiled anabl wrth yr adeilad Prefab, rhif 45 ar fap y safle.
- Mae dau doiled Lleoedd Newid ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Mae un ar lawr gwaelod y prif adeilad wrth y caffi, a'r llall yn adeilad Gweithdy.
- Gofynnwch am allwedd Radar wrth y Dderbynfa yn y Brif Fynedfa. Rydyn ni'n argymell i chi ddod â'ch sling codi eich hunain.
- Gweler Stori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) am ragor o wybodaeth i gynllunio eich ymweliad.