Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae angen i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol.

DefnyddiwchStori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) ⁠i gynllunio eich ymweliad.

Gallwch chi hefyd Archwilio Sain Ffagan mewn 360° i helpu i baratoi dysgwyr am eu hymweliad.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Gallwn ni greu amserlen fwy hyblyg ar gyfer grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw, a threfnu ystafell frechdanau ar wahân, lle bo modd.

  • Os ydych chi'n poeni am lefelau golau a sain, cysylltwch â ni er mwyn trafod beth allwn ni ei wneud.

  • Gall yr adeiladau hanesyddol fod yn dywyll iawn, gyda nenfydau isel a thanau. Gallwn ni addasu rhai pethau mewn sesiynau er mwyn cefnogi anghenion synhwyraidd. Er enghraifft, gallwch chi ofyn i ni beidio cynnau'r tân yn nhi crwn Oes yr Haearn Bryn Eryr yn ystod eich gweithdy.

  • Gallwn ni addasu cynnwys gweithdy neu weithgaredd, neu'r dull cyflwyno, ar gais. 

  • Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion, ac unrhyw addasiadau i gefnogi eich dysgwyr. 

  • Gallwch chi brynu map o'r safle o'r dderbynfa, sy'n cynnwys gwybodaeth am lwybrau hygyrch. 

  • Mae mapiau mawr o’r safle yma a thraw yn yr Amgueddfa hefyd.

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Galwad fideo i’ch croesawu 

⁠Gallwn ni drefnu galwad fideo byr gydag aelod o'n tîm addysg i groesawu eich dysgwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ofyn cwestiynau a helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am yr ymweliad. 

Ymweliadau rhithiol 

Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o ymweliadau rhithiol am ddim, y gall eich dysgwyr gymryd rhan ynddyn nhw cyn neu ar ôl ymweld â'r Amgueddfa. Fel arfer, mae'r rhain yn para rhwng 45 munud ac awr – ond gallwn ni eu haddasu ar gais. Maen nhw'n rhoi cyfle i'r dysgwyr edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg, Saesneg a BSL. 

Ymwelwyr â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadair olwyn neu bram

  • Mae llefydd parcio penodol i ymwelwyr anabl ar gael ger y brif fynedfa.

  • Mae cadeiriau olwyn ar gael am ddim, ar gais – cyntaf i'r felin.

  • ⁠Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle, ond, oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd. ⁠ 

  • Cysylltwch ag aelod o'r tîm archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am fynediad i’r adeiladau. Mae rhagor o wybodaeth am yr adeiladau hanesyddol yma: ⁠Y Safle | Amgueddfa Cymru

  • Mae'r tir ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth mewn mannau a gall fod yn drafferthus i ddefnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Mae map ar gael sy'n dangos llwybr a awgrymir ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, ac sydd hefyd yn nodi unrhyw lethrau serth. Gall ymwelwyr hefyd archebu'r bygi, fydd yn cael ei yrru gan aelod o dîm yr Amgueddfa, i’w gollwng ar bwys y Gerddi Eidalaidd. Rhaid archebu'r bygi pythefnos ymlaen llaw, ac mae lle i 5-6 o bobl. Cysylltwch â switsfwrdd yr Amgueddfa i archebu.

  • Mae mynediad cadair olwyn i'r mannau bwyta, Y Gegin a Gweithdy.

Ymwelwyr dall a rhannol ddall

  • Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw mwynhau synau ac aroglau safle mor amrywiol, o fara ffres a thanau coed, i'r anifeiliaid ar y fferm.

  • Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'n hadeiladau, ac mae nifer o grefftau a dangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd ein staff yn hapus i esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.

  • ⁠Gall rhai mannau o'r safle beri trafferth i ymwelwyr â nam ar eu golwg, megis y nant a'r llynnoedd. Gallwch chi holi am gyngor wrth y Dderbynfa yn y Neuadd Groeso cyn mynd allan i'r safle.

  • Mae gan aelodau'r tîm brofiad o gynnal teithiau disgrifiad sain, a thywys ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg. Gofynnwch wrth archebu.

  • Ymwelwyr Byddar a Thrwm eu Clyw

  • Mae deunyddiau ysgrifenedig o safon yn yr orielau sy'n cyd-fynd â'r casgliadau.

  • Mae llawer o’n staff wedi cwblhau hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth anghenion pobl fyddar.

  • Mae gennym ni gynnwys fideo BSL ar gyfer ein hymweliadau rhithiol, a gellir defnyddio rhai ohonyn nhw i gyflwyno ein sesiynau wyneb yn wyneb.

  • Mae bwrdd gwybodaeth y tu allan i bob adeilad.

  • Mae dolenni sain cludadwy ar gael wrth y ddesg addysg ac yn y Stiwdios. Gallwch chi eu defnyddio yn y gofodau gweithdy hefyd.

Ymwybyddiaeth Dementia 

  • Mae llawer o'n staff wedi cael hyfforddiant Ffrindiau Dementia. 
  • Gellir trefnu teithiau dementia-gyfeillgar ar gyfer grwpiau ymlaen llaw.

Cŵn

  • Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol neu'r caffis.

  • Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr drwy'r amser.

  • Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.

  • Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.

  • Mae dau fin baw cŵn ar y safle. 

Toiledau ac Uned Lleoedd Newid

  • Mae toiled anabl yng Nghanolfan Ddysgu Weston ac mae bloc toiledau gyda thoiled anabl wrth yr adeilad Prefab, rhif 45 ar fap y safle.
  • Mae dau doiled Lleoedd Newid ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Mae un ar lawr gwaelod y prif adeilad wrth y caffi, a'r llall yn adeilad Gweithdy.

  • Gofynnwch am allwedd Radar wrth y Dderbynfa yn y Brif Fynedfa. Rydyn ni'n argymell i chi ddod â'ch sling codi eich hunain.

  • Gweler Stori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) am ragor o wybodaeth ⁠i gynllunio eich ymweliad.