Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae adnoddau Cysur mewn Casglu wedi’u datblygu i gysylltu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, pobl sydd yn wynebu ynysu cymdeithasol, a phobl sydd yn edrych am gweithgareddau i’w gwneud mewn sesiynau grŵp, â chasgliadau cenedlaethol Cymru. Mae modd lawrlwytho’r adnoddau hyn a’u defnyddio ar gyfer gweithgareddau, neu i sbarduno sgyrsiau ac atgofion.
Gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau thema hyn gyda grŵp, ar gyfer trafodaethau un-i-un, neu fel sbardun ar gyfer sgyrsiau hanes bywyd. Maent yn addas i bawb, ond yn rhoi cyfle i ddysgu rhywbeth newydd drwy archwilio casgliadau Amgueddfa Cymru.
Cliciwch o dan y rhagolwg i lawrlwytho pob adnodd. Gallwch eu defnyddio ar sgrin neu eu hargraffu.
Mae pob canllaw gweithgaredd yn cynnwys cwestiynau a syniadau am weithgareddau synhwyraidd i annog sgwrs ac ymgysylltu.
Mae ymuno â phobl eraill debyg i chi i orymdeithio, protestio neu ddathlu yn gallu bod yn gysur. Ydych chi erioed wedi cymryd rhan mewn protest neu ddathliad dros achos sy’n bwysig i chi?
Dechreuodd pobl ddofi anifeiliaid filoedd o flynyddoedd yn ôl, ac erbyn hyn maen nhw’n sicr yn rhan o’r teulu. Fuodd gennych chi gi neu anifail anwes erioed?
Mae’r tedi yn degan sy’n annwyl i lawer. Oedd gennych chi hoff degan pan yn blentyn?
Mae paned o de yn gallu bod yn gysur ar adegau anodd ac ansicr. Sut fyddwch chi’n yfed eich te?
Mae bod wrth y môr yn tawelu ac yn llonyddu nifer ohonom. Beth allwn ni ei weld ar lan y môr? Beth ydych chi wedi’i ddarganfod ar lan y môr?
Mae’r robin goch yn un o’n hoff adar, ac mae gweld yr aderyn bach yn dod â chysur i lawer. Beth mae gweld robin goch yn ei olygu i chi?
Gwyliau - amser i ymlacio. Lle fyddwch chi’n hoffi mynd ar wyliau neu ar drip?
Mae cocos, cregyn gleision a bwyd môr yn fwyd sy’n dod â chysur i lawer, ac yn aml yn cael eu bwyta ger y môr. Pa fwyd sy’n dod â chysur i chi?
Mae ffasiwn yn ffordd o fynegi’ch hunain, ac yn gysylltiedig â lle ac amser penodol. Sut fyddwch chi’n hoffi gwisgo?