STEM yn ein hamgueddfeydd
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru - Cewch fynd ar daith 90 medr i grombil y ddaear i weld sut beth oedd gweithio mewn pwll glo. Mae digon i’w wneud ar yr wyneb hefyd – taith amlgyfrwng gyda glöwr rhithwir yn yr Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddondai Pen Pwll, a phob math o adeiladau hanesyddol i’w harchwilio.
Amgueddfa Lechi Cymru - Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei gweddnewid fis Tachwedd 2024. Fyddwn ni ddim yn segur tra rydyn ni ar gau! Yn 2025 byddwn yn mynd â’r Amgueddfa ar daith, yn gweithio gyda’n partneriaid, ac yn ymddangos dros dro mewn llefydd cyfagos, o atyniadau lleol i ddigwyddiadau cymunedol.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - Gallwch ymgolli ym myd natur wrth archwilio planhigion ac anifeiliaid yr orielau hanes natur. Neu mae cyfle i ail-greu byd cynhanesyddol wrth drin a thrafod cannoedd o wrthrychau’r Amgueddfa yng Nghanolfan Ddarganfod Clore.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru – ddoe, heddiw ac yfory. O locomotif enwog Trevithick, i awyren y Robin Goch a adeiladwyd gan un dyn, dewch i gael eich ysbrydoli gan hanes y bobl anhygoel tu ôl i’r gwrthrychau.