Ionawr 11, 2007 Sara Huws, 11 Ionawr 2007 'Rwy'n ysgrifennu hwn wrth i'r rhew ddadmer o'r coed o amgylch yr Eglwys. Mae s?n ysgafn iawn d?r yn rhedeg a'r haul trwy'r coed yn rhoi naws reit llon i'r parc - yn sicr, mae'n codi dipyn o gyffro at be fydd yn wanwyn cyntaf i finne yn Sain Ffagan. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar ato. Bydd lliw blodau 'gwyllt' a glaswellt yn ymddangos yn iard yr Eglwys, felly hefyd y tu fewn iddi, am ein bod ni am gychwyn ar y gorchwyl o ail-greu y murluniau. Roedden nhw'n bethau llachar, bywiog iawn pan y peintiwyd nhw ym 1520: rydyn ninne wedi bod yn cymysgu paent naturiol i ail-greu yr effaith. sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. sian 17 Gorffennaf 2007, 10:57 atgofion melys iawn.mae'r eglwys fel yr oedd ger y Bont amser maithyn ol.