Creuwch eich rhan yn Arddangosfa Gobaith yr Amgueddfa Wlân Cymru
Mae hwn yn gyfnod heriol ac anodd i bawb. Gobeithio eich bod chi’n cadw’n ddiogel. Mae creadigrwydd a chymuned yn bwysicach nag erioed mewn cyfnod o ynysu, felly rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i greu arddangosfa ar gyfer Amgueddfa Wlân Cymru: Gobaith.
Gallwch gymryd rhan drwy gyfrannu at flanced enfys enfawr fydd yn cael ei gwnïo at ei gilydd gan wirfoddolwyr a’i harddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru pan fyddwn yn ailagor. Gofynnwn i bob cyfrannwr creu sgwâr bychan o unrhyw liw, boed hynny er enghraifft trwy wau (unrhyw bwyth), wehyddu neu crosio, ond o faint cwmws 8” neu 20cm sgwâr. Lawrlwytho’r batrwm i gael yr union faint, nifer o bwythau ayyb. Ar ôl i’r arddangosfa ddod i ben, byddwn yn creu blancedi llai o’r flanced fawr ac yn eu rhoi i wahanol elusennau.
Caiff enfys ei defnyddio’n aml fel symbol o obaith a heddwch, ac fel y gwyddom, mae fel arfer yn ymddangos ar ôl glaw trwm. Mae’r enfys yn ein hatgoffa y daw eto haul ar fryn.
Yr Enfys
gan Eifion Wyn
Mae'n awyr las ers meitin,
A dacw Bont y Glaw;
Wel, brysiwn dros y caeau,
A thani law yn llaw.Cawn eistedd yn ei chysgod,
A holi pwy a'i gwnaeth,
Un pen ar grib y mynydd,
A'r llall ar fin y traeth.Mae saith o liwiau arni,
A'r rheini'n dlws i gyd;
A gwnaed ei bwa meddir,
O flodau gwyw y byd.Ond dacw'r Bont yn symud, -
Pwy ŵyr i ble yr aeth?
Nid yw ar grib y mynydd,
Na chwaith ar fin y traeth.
Sut alla i gymryd rhan?
Gallwch creu eich sgwâr mewn unrhyw ffordd, e.e. trwy wau (unrhyw bwyth) wehyddu neu crosio. Rydym am i’r flanced fawr fod mor lliwgar â phosibl, felly gall eich sgwâr fod yn unrhyw liw! Ond mae angen i’r sgwâr fod o faint cwmws 8” neu 20cm sgwâr. Edrychwch ar ein patrwm ac ewch ati i grefftio!
Diweddariad:
Diolch i bawb sydd wedi bod yn cymryd rhan yn Arddangosfa Gobaith. Rydyn ni wedi cael llawer o ddiddordeb! Sylwch, fodd bynnag, oherwydd newid mewn amgylchiadau, ni fyddwn yn creu darn o waith celf o ffotograffau enfys mwyach. Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Cymru yng nghanol project Casglu Covid: Cymru 2020 felly os hoffech roi eich ffotograffau enfys i’r project yma.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn eich sgwariau yn y post. Anfonwch nhw at
Arddangosfa Gobaith
Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach Felindre ger Castell Newydd Emlyn
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 5UP
Dyddiad cau cyfraniadau yw 31/03/2021
Defnyddir y sgwariau i greu blanced enfys enfawr ac yn dilyn yr arddangosfa bydd blancedi llai yn cael eu creu o’r flanced enfawr a’u rhoi i elusennau, ni fydd eich sgwariau yn dod yn rhan o’r Casgliad.
Cymerwch ofal, a diolch am gymryd rhan.
sylw - (11)
Hi Jacky,
Thank you for getting in touch with us. I'm afraid a date still hasn't been confirmed yet. Please keep an eye on this webpage as now we have a date for re-opening we are in a position to make arrangements to receive the knitted squares. All information will be posted on our website and social media channels.
Kind regards,
Nia
(Digital team)
Hi Jacky,
Thank you for getting in touch with us. Dates for sending the squares to us hasn't been confirmed yet, but when it has, we will be posting the information on the website. We have no limit on the number of squares and welcome as many possible! In terms of type of stitch, my colleague has confirmed that we accept any kind. Please get in touch if you have any additional questions.
Many thanks,
Nia
(Digital team)
I have a large drawing of an oversizes ball of wool of which I have a digital image.
I made the drawing for an exhibition at the Brecknock Museum celebrating Welsh Wool and sheep farming at the time of the Foot and Mouth crisis in 2001.
Seeing your information for the Exhibition of Hope, I wondered if you would like me to send you an image of the drawing to use on your website,
Just an idea !
Susan Milne
Regards sue
looking forward to knitting my square.
Have been knitting for prem babies while in lockdown.
Dear Vera Arrowsmith,
Thank you very much for your comment. Any squares are much appreciated, including ones that have been crocheted.
Kind regards,
Nia
(Digital team)