Adnoddau

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru - Casgliadau Arlein

Chwilio dros hanner miliwn eitem!

Am ddim Dan arweiniad athro

Amser Golchi

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Wlâ,n Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Clawr adnodd Amser Golchi ar gyfer ysgolion
Clawr adnodd Amser Golchi

Llyfr rhyngweithiol am olchi dillad cyn dyfodiad y peiriant golchi. Ar gyfer defnydd eich dysgwyr; mae'n cynnwys gemau, deunydd archif a gweithgareddau awgrymedig.

Wedi ei greu ar gyfer y cyfnod sylfaen a gwaelod Cyfnod Allweddol 2, ond gyda'r deunydd archif yn briodol ar gyfer oedrannau hyn a gall dod o hyd iddynt ar wefan Casgliad y Werin hefyd. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).

Gall ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, ond fe'i ddefnyddir orau i gyd-fynd gyda sesiynau diwrnod golch yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, ble mae cyfle i gael tro ar rai o gamau'r broses.

Lawrlwythwch e-lyfr Amser Golchi yma.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddim Dan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Wlâ,n Cymru

Cystadleuaeth 2019/20 ar agor nawr - gweler y llythyr isod.

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Am ddim Yn yr ysgol

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Pecyn digidol newydd i gefnogi’r fframwaith rhifedd mewn ysgolion cynradd.

22 o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 i hybu sgiliau rhif, geometreg, mesur a data.

Datblygwyd y pecyn hwn mewn partneriaeth â Gwawr Gwyddoniaeth. Noddwyd y pecyn hwn trwy grant gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Wlâ,n Cymru

Milwyr yn ymadfer mewn gwisg ffansi mewn ysbyty anhysbys yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Gwau Geiriau

Amgueddfa Wlâ,n Cymru
Gwau Geiriau

Pecyn adnoddau i diwtoriaid Cymraeg i'w ddefnyddio yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Mae Gwau Geiriau'n adnodd rhyngweithiol sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddysgu, datblygu a gloywi iaith drwy fanteisio ar holl adnoddau’r Amgueddfa Wlân, Dre-fach Felindre a chyfle i diwtoriaid gael cymhorthion astudio amrywiol.

Gwau Geiriau
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

O Ddafad i Ddefnydd

Amgueddfa Wlâ,n Cymru
O Ddafaf i Ddefnydd
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.