Amgueddfa Lechi Cymru: Ddoe, Heddiw a Fory
A ninnau’n dod yn ran o Safle Treftadaeth Byd UNESCO eleni a dathlu’n penblwydd yn 50 flwyddyn nesaf, dyma’r cyfle perffaith i'r Amgueddfa Lechi edrych i'r dyfodol.
Pa fath o amgueddfa dach chi eisiau?
Mae’n bwysig i ni ein bod yn amgueddfa i’n cymunedau.
Diolch i bawb gymrodd ran yn yr holiadur diweddar i rannu’ch syniadau ar siapio’r camau nesaf i’r amgueddfa.
Mae’r holiadur bellach ar gau ond gwyliwch y gofod yma am ddiweddariadau pellach a chyfleoedd i gymryd rhan yn y sgwrs.