Uchafbwyntiau

Amgueddfa Lechi Cymru

Calon diwydiant Cymru yn Amgueddfa Lechi Cymru

Caewyd Chwarel Dinorwig ym 1969. Nid saernïo wagenni a bwrw cledrau sydd yma heddiw ond adrodd hanes arbennig iawn: stori'r diwydiant llechi yng Nghymru.

Plac rhod ddŵr, gan Art Patnaude

Lleolir Amgueddfa Llechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir.

Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.

Mae’r Gweithdai ac Adeiladau wedi eu gynllunio fel petai'r chwarelwyr a'r peirianwyr newydd roi eu hoffer ar y bar a chychwyn am adref, ac mae’r amrywiaeth o Sgyrsiau a chrefftwyr yn dangos eu doniau yn cynnwys hollti llechi, yn rhoi golwg go iawn i chi ar fywyd y chwarel.

Gweithdau ac Adeiladau Chwarelwyr wrth eu gwaith
Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i glywed hanes cyffrous y Stori Llechi sy’n cynnwys digwyddiadau nodedig, fel anghydfod diwydiannol, ar y naill law, a manylion bach bywyd bob dydd ar y llall.

Stori Llechi

Mae

Fron Haul yn ail-greu gwahanol gyfnodau yn hanes y diwydiant llechi ar safle yr amgueddfa. Streiciau a dioddef, crefftwaith a chymuned: dyma ddramâu bywydau pobl go iawn.

Fron Haul
Amgueddfa Lechi Cymru

Nawr, oherwydd y dehongliad llawn dychymyg, gall y miloedd o ymwelwyr i Eryri ddeall a mwynhau olion arbennig y diwydiant llechi.

Mae Amgueddfa Lechi Cymru’n cynnig diwrnod llawn addysg a hwyl mewn tirwedd trawiadol o brydferth ar lannau Llyn Padarn, ger pen taith Rheilffordd Llyn Llanberis.

Fron Haul - Tai'r Chwarelwyr

Agorodd yr Amgueddfa yn wreiddiol i’r cyhoedd ym 1972. Cyflogwyd nifer o chwarelwyr a pheirianwyr gwreiddiol y safle i gyflwyno’u crefft, ac fe gasglwyd offer o chwareli Cymreig eraill.

Yn ddiweddar, adferwyd inclein y chwarel i’w gogoniant blaenorol ac ail-agorodd yr Amgueddfa ym 1999 gyda nodweddion ac adnoddau newydd.