Ymweld Am Ddim
Covid-19
Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn annog ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefnyddio gorsafoedd glanhau dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
Oriau Agor
Ar agor yn ddyddiol 10am – 5pm.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae croeso i gŵn ar y safle, ond rhaid eu cadw ar dennyn BYR ar bob adeg, os gwelwch yn dda.
Nodwch mai dim ond Cŵn Tywys sy’n cael mynediad i mewn i’r adeiladau a orielau.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Map safle
Grwpiau
Cyngor i gwmniau bysiauCefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal: Dewch i ddarganfod stori Cymru