Stori Llechi
Cewch gychwyn eich ymweliad wrth wylio ffilm agoriadol – Dwyn y Mynydd – sy’n rhoi ciplowg ddiddorol ar fywyd y chwarelwr
Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Defnyddiwyd llechi i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon — ac yng nghastell mawreddog Edward 1af yng Nghonwy.
Ond gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif y ffrwydrodd y diwydiant llechi go iawn.
Wrth i bentrefi bychain fel Manceinion chwyddo'n drefi mawr ac yna'n ddinasoedd yn sgîl dyfodiad ffatrïoedd a gweithfeydd, daeth galw mawr am lechi i doi'r terasau hirion o dai a adeiladwyd yn gartrefi i'r gweithwyr —heb sôn am y ffatrïoedd a'r ffowndris eu hunain.
Ym 1787 agorwyd 'chwarel fawr newydd' Dinorwig ar y llethrau rhwng lleoliad presennol pentref Dinorwig a glannau Llyn Peris.
Erbyn y 1870au roedd chwarel Dinorwig yn cyflogi dros 3,000 o ddynion. Erbyn hyn roedd cloddio llechi yn un o ddiwydiannau pwysicaf y wlad.
Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig ymhlith holl siroedd Cymru.
Ym 1882 cynhyrchodd chwareli'r sir dros 280,000 o dunnelli o lechi toi gorffenedig, ac ym 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru'n gyffredinol ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnel o lechi.
Mae'n stori llawn gobaith a hud yn ogystal â thristwch a thlodi. Mae Dwyn y mynydd yn cael ei ddangos yn rheolaidd mewn Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg.