Llogi Lleoliad yn Amgueddfa Cymru

Byrddau wedi'u gosod yn y brif neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

EICH DIGWYDDIAD CHI. EICH STORI CHI. EICH AMGUEDDFA CHI.

Diolch am eich diddordeb mewn llogi safle yn Amgueddfa Cymru. Rydym yn deulu balch o amgueddfeydd ledled Cymru, pob un â lleoedd unigryw ac anhygoel ar gael i'w llogi. Mae ein lleoliadau eiconig heb eu hail yn amrywio o neuaddau bwyta crand, orielau godidog a chastell hyd yn oed, i fannau cynadledda rhyfeddol ac ystafelloedd cyfarfod agos-atoch. Mae'ch amgueddfa yn lle delfrydol ar gyfer digwyddiadau bach a mawr.

Dilynwch y dolenni i bob safle sydd ar gael i'w llogi, i ddysgu mwy am eu mannau anhygoel a'r mathau o ddigwyddiadau sydd orau i’w cynnal yno, gan gynnwys cynadleddau, ciniawau gala, derbyniadau a phriodasau. Neu, cysylltwch â'n tîm llogi i holi a dechrau cynllunio eich digwyddiad gyda ni.

Fel elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych yn un o'n lleoliadau yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a'i bod yma i bawb ei ddefnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, trwy gyfrwng ein hamgueddfeydd, ar lawr gwlad ac yn ddigidol, a pharhau i gyflwyno celf o'r radd flaenaf i'r genedl.

Our Venues for Hire