Arlwyo

Ciplun o fwrdd bwyta ffurfiol gyda napcyn glas wedi'i blygu'n driongl, wedi'i amgylchynu gan gyllyll a ffyrc, gwydrau a phlatiau.

Rydym yn deall pa mor allweddol yw bwyd i'ch digwyddiad ac rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo, beth bynnag yw'ch anghenion.

Mewnol

Mae gennym dîm Bwyd a Diod mewnol ymroddedig yn yr Amgueddfa sy'n gallu cynnig pecynnau cinio gwaith, lluniaeth cyfarfodydd a derbyniad diodydd ym mhob amgueddfa a gofod. Gofynnwch am lyfryn safle-benodol gan ein tîm neu lawrlwythwch ein bwydlen sampl isod. Gallai’r manylion newid.

Cliciwch i lawrlwytho bwydlen siampl

Arlwywyr allanol

Rydym hefyd yn gweithio gyda arlwywyr o fri ar becynnau ar gyfer cynadleddau, ciniawau gala, priodasau a mwy, sy’n cael eu gweini yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Trwy eu harbenigedd, eu steiliau unigol a'u gwybodaeth am ein hamgueddfeydd, gall ein cyflenwyr ddarparu profiadau arlwyo creadigol a chofiadwy, gan gynnwys bwydlenni cynaliadwy. Mae pob un wedi mynd trwy broses gaffael drwyadl, sy'n ein galluogi i sicrhau ansawdd eu gwaith, diogelu'r Amgueddfa, ein casgliadau, a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a pholisïau cynaliadwyedd.

Cysylltwch â'n tîm i dderbyn pecynnau a llyfrynnau arlwyo ein cyflenwyr.

Dyma'r arlwywyr rydyn ni'n falch o weithio gyda nhw: