Geirda gan Gleientiaid

Dau berson â golwg hapus ar eu hwynebau yn gwisgo tagiau enw ac yn dal gwydrau siampên, yn sefyll o flaen paentiad haniaethol lliwgar.

“Byddwn yn argymell archebu Amgueddfa Cymru ar gyfer eich digwyddiad corfforaethol nesaf. Fe wnaethon ni archebu'r gofod orielau ar gyfer noson o rwydweithio a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan westeion a wnaeth fwynhau'r mynediad unigryw i'r arddangosfeydd o'r radd flaenaf. Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r tîm digwyddiadau a oedd wrth law bob amser i ateb cwestiynau a hyd yn oed i ddarparu ffeithiau am y gwaith celf ei hun.”
Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff

“Diolch o galon am wneud ein digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Fe weithioch chi'n ddiflino i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn esmwyth, ac roedden ni'n gwerthfawrogi pob help drwy'r dydd a'r nos. Chi'n sêr!”
Cynhadledd a Chinio Knights Brown – 2024

“Roedd cynnal ein digwyddiad cwmni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y lleoliad yn gyfuniad unigryw o hanes a chelf oedd yn llawn ysbrydoliaeth i'r tîm. Roedd y staff yn llawn eu cymwynas, ac yn gwneud yn siŵr bod pob manylyn yn berffaith, o'r offer sain i'r arlwyo. Roedd yr amgueddfa yn well na phob disgwyl, ac yn lleoliad gwych ar gyfer unrhyw ddigwyddiad corfforaethol.”
Matrix Booking 2024

Fe wnaethon ni briodi yn Oriel yr Argraffiadwyr oherwydd roedd hwn yn lle arbennig i ni ers yn blant, yn eistedd o flaen y 'Fenyw Las'. ⁠Gan ei bod hi mor agos at y Nadolig fe gawson ni'r derbyniad o gwmpas y Goeden yn y Brif Neuadd, oedd yn brofiad hudol!
Roedd y staff yn wych. Doedd dim byd yn ormod o drafferth, ac allen ni ddim fod wedi gofyn am ddiwrnod gwell. Roedd y bwyd a'r gwasanaeth yn wych, a nifer o'r gwesteion yn dweud taw dyma'r briodas orau iddyn nhw fod iddi!”

M. Axford, Priodasferch – 2024

“Rwyf yn hapus i gadarnhau fy mod yn hapus iawn gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd parthed Seremoni Datgan yr Uchel Siryf. Roeddech yn ystyriol o'r amrywiol wahanol fanylion yn ystod y paratoadau ar gyfer y Seremoni, gan gyfathrebu'n effeithlon ac effeithiol gyda'r darparwyr eraill. Aeth y seremoni rhagddi'n ddidrafferth ar y noson ac roedd y lleoliad a'r gwasanaeth wedi creu argraff ar y gwesteion.”
Datgan yr Uchel Siryf 2024

“Aeth popeth yn wych ac roedd pawb yn hapus iawn. Roedd Parliament UK wrth eu bodd â'r lleoliad a sut wnaethoch chi ofalu am bawb. Diolch yn fawr.”
Chambers Wales – Cyfarfod – 2023

“Roedd hi'n bleser llwyr cydweithio â chi ac rydw i'n gwerthfawrogi'n fawr eich gwaith caled a'ch ymrwymiad i sicrhau llwyddiant digwyddiad Vodafone Business.”
Digwyddiad Vodafone Business 2023

“Diolch eto am eich help a'ch cefnogaeth ar gyfer Darlith a Chinio Zienkiewicz neithiwr. Fel arfer, aeth y digwyddiad yn hwylus iawn ac rydyn ni wedi cael digonedd o adborth positif.”
Darlith Flynyddol Zienkiewicz – Prifysgol Abertawe 2023

“Roeddwn i am ddweud diolch ANFERTH i chi am y digwyddiad Wythnos Gofalwyr. Roedd y lleoliad yn wych, gyda mynediad da i'r cleientiaid ac atmosffer hyfryd. Fe wnaethon ni fwynhau mas draw ac roedden ni'n teimlo'n gyfforddus ar y diwrnod. Roedd eich tîm yn help mawr ac ar gael pan oedd angen.
Rydyn ni wedi cael adborth positif iawn gan bob cleient, oedd wedi mwynhau yn fawr – felly diolch!”

Canolfan Gofalwyr Abertawe – 2023

“Nodyn byr i ddiolch eto am eich holl help yn nigwyddiad TKC yn yr Amgueddfa yn gynharach yr wythnos hon. Roedd hi'n sioe wych mewn lleoliad hollol hyfryd, a thîm yr amgueddfa yn help mawr drwy'r digwyddiad. Cofiwch basio ein diolch i bob un ohonyn nhw! Os fyddwn ni'n recordio ein rhaglen yn Abertawe eto bydda i'n bendant yn cysylltu.”
BBC Radio 4 – darllediad byw The Kitchen Cabinet gyda Jay Rayner – 2022

“Roedden ni'n teimlo bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi ein cefnogi drwy'r broses o drefnu ein priodas. O'r cyswllt cyntaf roedden ni'n teimlo y byddai'r digwyddiad wir yn unigryw i ni, ac nid yn becyn parod. Roedd y diwrnod ei hun yn berffaith, ac roedd hi'n wych gweld y bobl roedden ni wedi bod yn delio â nhw yn ystod y gwaith paratoi yn helpu ar y diwrnod. Fe ddarparwyd popeth roedden ni wedi ei ofyn amdano yn hwylus heb unrhyw ofid o'n hochor ni. Rydyn ni hefyd wedi derbyn adborth gan gyflenwyr wnaeth ddweud pa mor hawdd oedd delio â thîm yr Amgueddfa.”
Lydia, Priodasferch – 2023

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

Our Clients