Neuadd Weston

Mae cwpl yn dawnsio yng nghanol ystafell fawr gyda llusernau papur lliwgar, tra bod gwesteion yn gwylio.

Neuadd Weston yw’r neuadd arddangos fawr a welwch chi wrth gyrraedd yr Amgueddfa drwy'r brif fynedfa a’r dderbynfa. Mae golau naturiol yn llifo drwy Neuadd Weston diolch i’r waliau gwydr sy’n arwain i ardd yr iard.

Mae’r mannau hyblyg hyn yn gartref i arddangosfeydd sy’n newid gan mwyaf, ond mae’n ofod trawiadol ar gyfer digwyddiadau min nos hefyd. Mae’n nhw’n fwyaf addas ar gyfer derbyniadau mis nos ond gellir eu llogi ar adegau yn ystod y dydd hefyd yn dibynnu ar y gofynion, megis ar gyfer arddangosfeydd neu stondinau.

Mae’r neuadd yn gallu dal hyd at 400 o bobl yn sefyll, neu 250 ar ffurf theatr neu ginio gala ac mae'n lleoliad cwbl hygyrch.

Siaradwch â ni am unrhyw ofynion arbennig, boed yn oleuadau yr un lliw â’ch brand, offer clyweledol, systemau PA neu addurno’r ystafell mewn ffordd arbennig, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo.

Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,800 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

  • Gosodiad bwyta ffurfiol mewn lleoliad eang gyda byrddau crwn wedi’u gorchuddio â lliain gwyn, wedi’u gosod gyda gwydr a llestri. Mae cerdyn ar bob bwrdd.
  • Llawr dawns bywiog mewn digwyddiad ffurfiol gyda phobl mewn dillad lliwgar yn dawnsio ac yn codi eu dwylo. Byrddau crwn yn y cefndir.
  • Gosodiad bwyta ffurfiol mewn lleoliad eang gyda byrddau crwn wedi’u gorchuddio â lliain gwyn, wedi’u haddurno â blodau a gwydr. Mae baneri uwchben.
  • Arddangosfa o flaenau ceir ar stondinau mewn lleoliad eang, wedi’i oleuo’n dda, gyda ffenestri mawr. Mae fas uchel gyda blodau pinc ar y dde.
  • Gofod dan do mawr gyda rhesi o raciau dillad yn llawn dillad lliwgar. Mae glôb addurnol yn hongian o’r nenfwd.
  • Digwyddiad ffurfiol mewn lleoliad eang, wedi’i oleuo’n dda, gyda nenfwd uchel. Byrddau crwn wedi’u gosod ar gyfer bwyta, llwyfan gyda chyfarpar cerddorol ar y blaen.