Ciniawau Gala yn Sain Ffagan
Mae’r Atriwm, ein neuadd fawr amlbwrpas yn ddelfrydol ar gyfer ciniawau gala, perfformiadau a derbyniadau priodas. Dyma fynedfa brysur yr amgueddfa yn ystod y dydd, ond gyda'r nos mae'n trawsnewid yn ofod hardd a bywiog.
Mae'r gofod cyfforddus yn ddigon mawr ar gyfer llwyfannau a phodiymau, yn ogystal ag amrywiaeth o gynlluniau eistedd boed ar ffurf cabaret, cinio gala neu arddull theatr. Mae lle i hyd at 500 o weseion yn y lleoliad amlbwrpas hwn yn dibynnu sut y caiff ei drefnu, a dewis o adloniant a pherfformiadau. Siaradwch â'n tîm ymroddedig am argymhellion.
Gyda rhodfa drawiadol yn edrych i lawr i'r Atriwm, mae'r cyntedd uwch yn cysylltu dau lawr y prif adeilad yn berffaith ac yn cynnig mannau neilltuo ychwanegol ar gyfer digwyddiad Atriwm, gan gynnwys cyfweliadau, arddangoswyr, byrddau arlwyo, mannau ar gyfer ffotograffiaeth a llawer mwy.
Siaradwch â ni am unrhyw elfennau arbennig ar gyfer y mannau hyn, boed yn oleuadau lliw brand, gosodiadau AV, systemau PA neu addurno’r lle, ac i ddysgu mwy am opsiynau arlwyo.
Mae prisiau llogi’r lleoliad unigryw hwn yn dechrau o £3,300 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Saim Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i drafod, llogi neu drefnu ymweliad a'r safle