Yr Atriwm a’r Cyntedd Uwch
Yr Atriwm, ein neuadd fawr fodern ac amlbwrpas, yw'r lleoliad cinio gala delfrydol ar gyrion y ddinas. Mae ganddi le i hyd at 400 o westeion ac mae’n gwbl hygyrch. Dyma’n prif fynedfa yn ystod y dydd, ond erbyn y nos caiff ei thrawsnewid yn ofod cain a bywiog ac mae ganddi rodfa drawiadol sy'n edrych i lawr i'r gofod o'r cyntedd uwch.
Siaradwch â'n tîm i weld sut allwn ni deilwra'ch cinio'n arbennig i chi, boed trwy oleuadau yr un lliw â'ch brand, cymorth technegol ar gyfer anerchiadau a chyflwyniadau neu addurno'r lleoliad – eich digwyddiad chi, a'ch amgueddfa chi yw hi.
Gallwn gynnal perfformiadau gan ddawnswyr, corau, artistiaid clasurol, bandiau a mwy i ddiddanu'ch gwesteion yn ystod neu ar ôl gwledda. Siaradwch â'n tîm arbenigol am argymhellion.
Beth am ddiddanu’ch gwesteion ymhellach a rhoi derbyniad iddynt wrth gyrraedd yn ein horielau sy’n adrodd hanes Cymru.
Darperir arlwyo gan un o'n arlwywyr trydydd parti arbenigol sydd wedi ennill gwobrau. O bryd tri chwrs i fwffe penigamp, gall ein cyflenwyr ddarparu ar gyfer eich anghenion, gan gynnwys bwydlenni cynaliadwy.
Mae prisiau llogi lleoliad unigryw yn dechrau o £3,400 + TAW. Rydym yn gwerthu pecynnau arlwyo ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau pwrpasol i gael dyfynbris ar gyfer eich anghenion cinio gala.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.