Datganiadau i'r Wasg

Celfyddyd newydd yn glanio yn y Glannau

Mae Creiriau: Cymru Ffotosfferig i’w weld nawr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Tintern Abbey © Matt Wright

Blaenavon © Matt Wright

Project artistig amlelfennog yw Creiriau wedi’i seilio ar osodiadau celf ffotograffig sy’n benodol i leoliad. Yma mae’r artist gweledol o Gaerdydd, Matt Wright, wedi gosod wyth ffotosffer anferth o amgylch yr adeilad.

Am 10 mlynedd mae Wright wedi bod yn byw yn amrywiol dirluniau ac adeiladau prydferth Cymru gan eu dogfennu a dwyn ysbrydoliaeth ohonynt.

Bydd Creiriau yn cyflwyno’i weledigaeth unigryw o’r tirlun drwy ddefnyddio’r dull ffotosfferig mawr hwn am y tro cyntaf – cyflwyno ffotograffau panoramig 360° clirlun fel cerfluniau sfferig ar foment eu tynnu. Ymhlith y golygfeydd mae nifer o leoliadau hanesyddol Cadw gan gynnwys Abaty Tyndyrn, Gweithfeydd Dur Blaenafon a siambr gladdu Pentre Ifan.

Gyda’i gilydd mae’r ffotosfferau, a’r dogfennau esboniadol, yn creu arddangosfa deithiol o gelf weledol fawr, fydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 19 Mehefin.

Mae Matt Wright wrth ei fodd o gael arddangos ei waith: “Mae’n gyffrous iawn cael dangos fy ngwaith ffotosfferig ym mhrif neuadd odidog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae arddangosiadau rhyngweithiol gwych yr amgueddfa hon wedi dal fy sylw erioed ac mae’n fraint cael y cyfle i ddangos fy ngwaith yma.”

Wrth drafod yr arddangosiad newydd dywedodd y Swyddog Arddangosfeydd, Andrew Deathe: “Mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda’r ymwelwyr yn barod. Mae’r arddangosiad yn peri syndod i bawb wrth gamu drwy’r drws, yn enwedig y gosodwaith mawr yn hongian o’r to.

“Mae’r brif neuadd yn ofod perffaith i ddangos gwaith Matt ac yn adlewyrchiad unigryw o dreftadaeth a thirlun Cymru.”

“Hyfryd a rhyfeddol” yw disgrifiad Rheolwr Treftadaeth a Chelf Cadw, Dr Ffion Reynolds. “Mae celf gyhoeddus fel hyn yn tanio pawb sy’n ei weld – darnau chwareus sy’n codi gwen drwy eu creadigrwydd wrth ysbrydoli a synnu cynulleidfa. Drwy eu dangos mewn modd y gall pobl gerdded o’u hamgylch ac ymgysylltu â nhw, mae’r ffotograffau hefyd yn hygyrch iawn.”

DIWEDD

Am ragor o fanylion am y project a’r artist Matt Wright ewch i http://www.relics360.com/about/#project

Bydd Creiriau: Cymru Ffotosfferig i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 19 Mehefin.

Cadw yw gwasanaeth gofal treftadaeth Llywodraeth Cymru, yn gweithio i warchod a sicrhau mynediad i amgylchedd treftadaeth Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i http://cadw.gov.wales/