Datganiadau i'r Wasg
Posteri o oes aur y rheilffyrdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dyddiad:
2016-07-15Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o allu cyhoeddi arddangosfa newydd dros yr haf yn rhoi sylw i rai o’r posteri rheilffyrdd mwyaf deniadol a phoblogaidd o ddiwedd y 19eg ganrif.
Enw’r arddangosfa yw Golygfa o Gymru: Posteri Rheilffyrdd Cymru, a chaiff y posteri lliwgar eu harddangos yn erbyn golygfeydd o blatfform gyda meinciau ac ati, i greu’r teimlad o aros am drên.
Mae’r arddangosfa yn edrych ar dwf y rheilffyrdd tua diwedd y 19eg ganrif a sut y daeth trenau yn fodd o deithio er hamdden yn ogystal â busnes. Mae’n pwysleisio bod hyd yn oed yr ardaloedd mwyaf anghysbell o fewn cyrraedd a bod gan bobl fwy a mwy o amser rhydd i fynd ar antur.
Yn ystod y cyfnod hwn bu cwmnïau rheilffyrdd yn comisiynu artistiaid i greu posteri gwych er mwyn cael eu dangos mewn gorsafoedd a swyddfeydd tocynnau, ac mae nifer ohonynt i’w gweld yma. Y bwriad oedd denu cymudwyr i godi pac a mynd ar wyliau.
Mae hon yn arddangosfa berffaith ar gyfer yr haf,” meddai’r Swyddog Arddangosfeydd, Jacqueline Roach. “Mae harddwch a bywiogrwydd y posteri yn hynod drawiadol.
O steil y 1920au i hwyl y 1960au, mae’r posteri hyn yn dangos yr amrediad o arddulliau gâi eu defnyddio i hudo teithwyr i Gymru.
Mae’r posteri hyfryd yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ac mae’n bleser cael eu harddangos ar gyfer ein hymwelwyr. Mae gen i ffefryn newydd bob tro bydda i’n edrych arnyn nhw!
Mae ein rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau yn bosibl diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt,” ychwanegodd.
Bydd arddangosfa Golygfa o Gymru i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 9 Hydref.