Datganiadau i'r Wasg

Datganiad gan Amgueddfa Cymru ynglŷn â Chyhoeddiad Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw ynghylch y cynnydd arfaethedig i'n cyllideb.
 

"Ar ôl pum mlynedd o doriadau a welodd lleihad yn ein cyllideb o 33%, rydym yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o fanylion ynglŷn â sut gall y cynnydd o 3.5% o leiaf, ein helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y sefydliad.

"Er taw cyllideb drafft am flwyddyn yw hon, rydym yn gobeithio y bydd y lefel hon o gynnydd yn ein cyllideb yn parhau yn y dyfodol er mwyn rhoi mwy o sicrwydd o ran swyddi ar gyfer staff, diogelu arbenigedd a chynnal gwasanaeth amgueddfa genedlaethol o'r radd flaenaf i bobl Cymru a’n hymwelwyr.

"Rydym hefyd yn gefnogol o fentrau amgueddfaol newydd a fydd yn destun i astudiaethau dichonoldeb, a allai o bosibl, gyda digon o gefnogaeth ac adnoddau ariannol, ehangu effaith y sector yng Nghymru.”