Datganiadau i'r Wasg
Deinosoriaid yn Deor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf
Dyddiad:
2017-04-05Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer Deinosoriaid yn Deor, arddangosfa fawr i’r teulu cyfan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf a genfogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Dyma’r tro cyntaf i’r arddangosfa deithiol hon ddod i Gymru, gan roi golwg prin a chyffrous ar fywyd deinosoriaid drwy gasglu ynghyd rai o wyau ac embryonau mwyaf rhyfeddol y byd.
Yn yr arddangosfa ryngweithiol sy’n rhan o Flwyddyn Chwedlau Llywodraeth Cymru ac yn agor i’r cyhoedd ar 27 Mai 2017, mae sgerbydau deinosor a replicas maint llawn, modelau o embryonau ac wyau i’w cyffwrdd, a model 2.5 metr anferth o nyth deinosor hyd yn oed! Mae’n gyfle gwych i ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a deall mwy am eu bywyd teuluol, gan gynnwys sut oedden nhw’n gofalu am eu babanod. Dysgwch fwy am balaeontolegwyr a’u darganfyddiadau, rhoi cynnig ar y gwaith eich hun yn y ‘Pwll Palu Mawr’, a rhyfeddwch ar y ddau gast mawr o sgerbydau Tarbosaurus a Probactrosaurus.
Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous i’r teulu i gyd-fynd â’r arddangosfa.
Prynwch eich tocynnau ymlaen llaw drwy Ticketline www.ticketlineuk.com neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod.
- £7 oedolion (18 a hŷn)
- £5 gostyngiadau (digyflog, dros 60 oed, unrhyw un mewn addysg lawn-amser neu â cherdyn NUS, pobl anabl)
- £3 plant (4-17 oed)
- £17 teulu (2 oedolyn a 2 blentyn)
- £13 teulu (1 oedolyn a 3 plentyn)
Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Am ddim i blant dan 3 oed.
I archebu ar ran ysgol, ffoniwch yr Adran Addysg ar (029) 2057 3149. Am unrhyw archebion grŵp eraill, cysylltwch â Ticketline ar (029) 2023 0130.
Bydd yr arddangosfa ar agor o 10am bob diwrnod ar wahân i ddydd Llun (ag eithrio Gŵyl y Banc), gyda’r ymwelwyr olaf yn cael mynediad am 4pm.
Amgueddfa Cymru sy’n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol Cymru, sy’n denu cyfanswm o 1.7 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gyda mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yr amgueddfeydd unigol yw:
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
- Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
- Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
- Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
- Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
Gyda’n gilydd, ni yw sefydliad treftadaeth mwyaf poblogaidd trigolion Cymru.
Ein pwrpas yw defnyddio ein hamgueddfeydd a’n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles, i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.