Datganiadau i'r Wasg

GŴYL Y GOEDEN NADOLIG — 6–9pm 8–10 Rhagfyr 2004

100 Ffaith Hanesyddol am y Nadolig ddylech chi eu gwybod, ond bod eich pen yn rhy llawn o'r Nadolig i gofio!

A yw'r Nadolig yn rhy fasnachol, ac a oes wir angen i ni agor y 3ydd tun o Quality Street ar Ŵyl Sant Steffan? Mae'n sicr bod y Nadolig wedi newid dros y canrifoedd, ond mae sawl agwedd o'n carnifal kitsh blynyddol wedi aros yr un fath; y meddwi, y gorfwyta a'r hen ymweliad blynyddol diflas yna â Modryb hyn-a-hyn. Yma yn yr Amgueddfa Werin, bydd hafan Nadoligaidd lle cewch fwynhau'r hen ddefodau, bwydydd traddodiadol a chrefftau a gweld y bythynnod yn eu gogoniant tymhorol llawn canhwyllau, celyn ac uchelwydd. Bydd awyr gaeafol y nos yn atseinio i sŵn clychau, carolau a ffair draddodiadol. Mae Gŵyl y Goeden Nadolig yn siŵr o gynhesu calonnau hyd y Scrooge mwyaf crintachlyd yn eich plith. Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed pam ein bod ni'n dathlu'r Nadolig ac am wybod am hanes ein traddodiadau, dyma Sain Ffagan yn rhoi 100 o Ffeithiau Nadoligaidd i'ch helpu chi i ffeindio'ch traed yn nhymor y dathlu ac ewyllys da.

Yng nghanol y bedwaredd ganrif, cyflawnodd y Pab Julius 1 ymchwiliad manwl i ddyddiad geni Iesu Grist a gwnaeth ddatganiad y byddai pen-blwydd swyddogol Crist ar 25 Rhagfyr bob blwyddyn.

Roedd hyn yn eithriadol o glyfar. Roedd 25 Rhagfyr yn gosod genedigaeth Crist yng nghanol dathliadau canol gaeaf y Paganiaid. Roedd hyn ar adeg pan oedd yr Eglwys Gristnogol am droi'r Paganiaid yn Gristnogion.

Trwy gymysgedd o Gristnogaeth a'r hen ddathliadau Paganaidd, daeth y Nadolig yn gawl potsh o bob dim. Er mae dathlu Genedigaeth Crist oedd prif ffocws yr ŵyl, roedd hi'n dal i fod yn amser o wledda, meddwi, rhoi anrhegion, cynnau tanau a phob math o gamwri...

Newidiodd ystyr yr hen arfer o roi anrhegion i symboleiddio dod â rhoddion at y Baban Iesu.

Daeth addoli tân i symboleiddio Iesu fel 'Goleuni'r Byd'.

Diflannodd Saturnalia y Rhufeiniaid, seremonïau'r Llychlynwyr ar gyfer Odin a geni'r duw Persiaidd Mirtha (oedd ar 25 Rhagfyr hefyd) i'r gorffennol pell a daeth y cyfan yn rhan o'r Nadolig yn lle.

Erbyn Nadolig 2000, roedd y DU yn prynu 10 miliwn twrci, 25 miliwn pwdin 'Dolig, 250 miliwn peint o gwrw a 35 miliwn potel o win.

Mae'r DU yn gwario £20bn ar y Nadolig - mae £1.6bn o hynny'n mynd ar fwyd a diod.

Mae rhoi a derbyn anrhegion wedi bod yn rhan o fywyd ers i ni ddechrau byw mewn cymunedau amaethyddol yn yr Oes Cerrig Newydd tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Câi'r bwyd dros ben ei baratoi fel gwledd a'i rannu rhwng y cymunedau.

Roedd pobl Rhufain yn cymryd anrhegion o ddifrif ac roedd llawer o ofergoelion yn gysylltiedig â'r peth. Roedd peidio â rhoi anrhegion yn ystod y dathliadau canol gaeaf yn dod ag anlwc mawr.

Ceisiodd yr Eglwys Gristnogol droi'r arfer farus o roi anrhegion a gorfwyta yn arfer o roi anrhegion i'r bobl dlawd ac anghenus, ond methodd hyn am fod teuluoedd a ffrindiau'n cyfnewid rhoddion fel arwydd o gariad at ei gilydd.

Daw'r talfyriad cyffredin Xmas yn Saesneg o'r wyddor Groegaidd. X yw'r llythyren Chi, sef llythyren flaen enw Crist yn y Wyddor Groegaidd.

Mae Tymor y Nadolig wedi para 12 diwrnod ar ôl dydd Nadolig yn draddodiadol ers yr Oesoedd Canol. Y gwyliau oedd yr enw ar hyn yng Nghymru.

Y gwyliau fyddai unig seibiant hir y flwyddyn i lawer o bobl pan fyddai'r rhan fwyaf o Gymru'n dathlu diwedd y flwyddyn ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf. Byddai'r holl waith amaethyddol yn dod i ben am y tymor.

Mae pobl wedi bod yn casglu darnau o goed bythwyrdd i addurno'u cartrefi dros y gwyliau ers miloedd o flynyddoedd. Mae gan eiddew, celyn, yw ac uchelwydd allu hudol i ddwyn ffrwyth yng nghanol y gaeaf ac roedden nhw'n symbol o fywyd tragwyddol.

Yn Sgandinafia, mae cysylltiadau cryf rhwng y dduwies cariad Frigga ag uchelwydd. Mae'n bosibl mai dyma'r ddolen gyswllt â'n traddodiad ni heddiw o gusanu o dan yr uchelwydd.

Mae cusanu o dan yr uchelwydd yn gysylltiedig â'r traddodiad o arddangos delwau pren o'r Teulu Dwyfol y tu fewn i ddrws cartref ym Mhrydain y 14eg ganrif hefyd. Câi'r delwau eu gorchuddio â dail gwyrdd a'u gosod ar lwyfannau bach pren. Câi'r Teulu Dwyfol neu'r Gangen Ddwyfol fendith yr offeiriad a byddai rhaid cofleidio pawb oedd yn croesi'r rhiniog i ddangos cariad Cristnogol at bawb. Dros amser, cymrodd uchelwydd le'r delwau.

Gwaharddodd yr Eglwys ddefnyddio uchelwydd o unrhyw fath oherwydd ei gysylltiadau eilunaidd neu baganaidd. Cynigiodd fod celyn yn cymryd ei le.

Mae dail miniog y celyn yn symboleiddio'r drain yng nghoron Crist a'r aeron yw diferion ei waed.

Mae rhai eglwysi ym Mhrydain yn dal i wahardd defnyddio uchelwydd fel addurn yn ystod gwasanaethau'r Nadolig.

Un o'r golygfeydd enwocaf a mwyaf dychrynllyd oedd yn teithio o gwmpas strydoedd cul a throellog Cymru oedd y Fari Lwyd. Pen ceffyl mewn lliain gwyn oedd y Fari Lwyd, byddai'n gwisgo rhubanau a chlychau a byddai asgwrn ei ên mewn trap i wneud y sŵn SNAP SNAP; mae'r Fari Lwyd yn rhan hanfodol a hudol o'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghymru.

Mae'r Fari Lwyd yn anifail neu'n symbol arwyddocaol iawn yn chwedloniaeth rhan helaeth o ogledd Ewrop.

Roedd y Fari Lwyd yn ffigur poblogaidd iawn mewn rhannau o'r de a'r gogledd-ddwyrain yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf. Er bod y traddodiad o ddynion yn cario'r Fari ac yn mynd o dŷ i dŷ yn canu penillion wedi marw allan yn raddol, mae'n fyw o hyd mewn llecynnau bach o Forgannwg ac yn yr Amgueddfa Werin.

Byddai arfer y Fari Lwyd yn dechrau gyda'r grŵp yn canu penillion traddodiadol wrth y drws, yn gofyn am gael canu a dod i'r tŷ.

Byddai'r Fari'n herio trigolion y tŷ i bwnco - sef ymryson o penillion llawn tynnu coes a gwawdio nodweddion personol a fyddai'n arwain yn anochel at eu gadael i mewn i'r tŷ a chael cwrw, cacen ac arian i ddiolch am eu diddanwch a'u hwyl!

Roedd Dydd Calan yn ddiwrnod mawr i blant Cymru. Yn ardaloedd diwydiannol y de, byddai'r ffatrïoedd a'r pyllau glo yn seinio'u cyrn am ganol nos a byddai'r plant yn llifo i'r strydoedd i weiddi 'Blwyddyn Newydd Dda!' Byddai hyn yn para rhyw awr. Ar ôl codi'n gynnar, byddai plant mor ifanc a 3 oed yn teithio o dŷ i dŷ i ofyn am Galennig, sef rhodd o arian, ffrwythau neu gnau.

Arfer foreol oedd Calennig yn bennaf ac roedd rhaid gorffen cyn canol dydd. Ond mewn rhai ardaloedd o Gymru, byddai'r plant yn teithio am hyd at 2 ddiwrnod gan alw ar gartrefi a ffermydd am Galennig. Byddai teuluoedd tlawd yn mynd i ganu Calennig gyda'i gilydd, a byddai rhai o'r teuluoedd lleiaf ffodus yng nghefn gwlad yn croesawu rhoddion o fara, caws a llaeth.

Diflannodd llawer o ddathliadau'r gwyliau tua diwedd y 19eg ganrif pan ddaeth diwydiant i Gymru, ond arhosodd ambell un ac maen nhw'n dal i gael eu harfer mewn llecynnau o Gymru ac yn yr Amgueddfa Werin.

Mae bowlen fawr o gnau yn eu plisg gyda gefail cnau ar eu pen yn ddelwedd boblogaidd o'r Nadolig a gallwn ni olrhain hyn yn ôl i amser y Rhufeiniaid. Adeg Saturnalia, byddai pobl yn rhoi cnau fel anrhegion ac roedden nhw'n arbennig o boblogaidd i'r plant fyddai'n eu defnyddio i chwarae gêm tebyg i farblys. Roedd pobl yn credu bod cnau cyll yn atal newyn, cnau Ffrengig yn dod a ffyniant ac almonau'n amddiffyn y corff rhag effeithiau diota!

Sant Ffransis o Assisi gyflwynodd Carolau Nadolig i wasanaethau eglwys ffurfiol.

Tawel Nos, Silent Night neu 'Stille Nacht' yw carol mwyaf poblogaidd y byd. Fe'i hysgrifennwyd ym 1818 gan offeiriad o Awstria o'r enw Joseph Mohr. Am fod organ yr eglwys wedi torri ar Noswyl y Nadolig, ysgrifennodd Mohr garol 3 pennill i'w ganu gyda chôr neu gitâr.

Mae coed Nadolig yn rhan o'r hen arfer baganaidd o addoli coed ledled Ewrop.

Derwen fawr fyddai'r goeden fyddai'n cael ei haddoli'n wreiddiol. Daw'r ymadrodd Saesneg 'touch wood' o'r traddodiad hwn. Os ydych chi wir o ddifri am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cyffwrdd mewn coed derw yn hytrach nag unrhyw bren arall.

Roedd yr Almaenwyr paganaidd yn arbennig yn addoli'r dderwen. Er gwaethaf yr ymdrechion i'w troi at Gristnogaeth, roedd gwreiddiau (?!) y diwylliant coed yn rhy ddwfn, a phenderfynodd y cenhadon Cristnogol i fabwysiadu'r traddodiad yn lle brwydro yn ei erbyn.

Y Cristnogion newidiodd y goeden Nadolig i fod yn binwydden. Roedden nhw'n dweud bod y siâp trionglog yn cynrychioli'r Drindod Ddwyfol gyda Duw'r Tad a'r ben y Goeden a Mab Duw a'r Ysbryd Glân ar y 2 bwynt isaf.

Gwelwyd y cyfeiriad cyntaf mewn print at goed Nadolig yn yr Almaen ym 1531.

Ym 1800, cododd y Frenhines Charlotte, gwraig Siôr III oedd wedi cael ei geni yn yr Almaen, goeden Nadolig ym Mhorthdy'r Frenhines yn Windsor. Ond ni ledodd yr arfer ym Mhrydain, a hynny'n fwy na thebyg am fod ei gŵr mor amhoblogaidd.

Erbyn 1840, cododd y Tywysog Albert goeden Nadolig yng Nghastell Windsor ar gyfer y Frenhines Victoria ac enillodd yr arfer, oedd wedi dod draw o'r Almaen, ei phlwyf ym Mhrydain. Erbyn y 1860au, roedd yr arfer wedi lledu ar draws y wlad ac roedd yn dechrau dod yn rhan hanfodol o ddathliadau'r Nadolig.

Diolch i gysylltiadau cryf yr Almaen â'r UDA, lledodd traddodiad y goeden Nadolig ledled y byd ac erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd yn gyffredin ledled Sgandinafia, gogledd Ewrop a Gogledd America.

Ar y cychwyn, byddai'r coed yn cael eu gosod mewn potiau ar ben bwrdd, â'r anrhegion heb eu lapio o dan y goeden neu'n crogi arni, ynghyd â chardiau i ddweud anrheg pwy oedd pob un.

Erbyn y 1880au, pan ddechreuodd Sbriwsen Norwy ennill ei phlwyf dros y Springelbaum Almaenaidd, daeth y coed yn haws i'w fforddio a daeth coed mwy fyddai'n sefyll ar y llawr yn fwy poblogaidd.

Byddai pobl Oes Victoria'n addurno'u coed â chanhwyllau a rhubanau. Ym 1880, gwerthodd Woolworths y goeden ffug gyntaf a daeth y syniad yn boblogaidd yn gyflym iawn.

Mae'n debyg mai Martin Luther oedd y cyntaf i oleuo coed â chanhwyllau yn y 16eg ganrif. Gwelwyd y goeden Nadolig gyntaf i gael ei chynnau â thrydan yn America ym 1882.

Ym 1923, goleuodd Calvin Coolidge y goeden awyr-agored gyntaf ar lawnt y Tŷ Gwyn a dechreuodd draddodiad newydd. Dyma sy'n gyfrifol am yr Homer Simpsons golau anferth a miloedd o gartrefi wedi eu gorchuddio â goleuadau bach yn disgleirio o Hydref tan Chwefror a welwn ni heddiw!

Rydyn ni'n gwylio 8 awr o deledu yr un ar gyfartaledd dros y Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Mae ychydig yn llai na thraean o'r boblogaeth yn mynd i wasanaeth yn yr eglwys dros y Nadolig.

Cafodd y Nadolig ei wahardd drwy Ddeddf Seneddol yn ystod y Rhyfel Cartref. Ond roedd pobl yn fodlon mynd i'r carchar neu gael eu lladd i amddiffyn eu hawl i ddathlu. Ym 1646-7, bu helbul mawr yn Llundain, Caergaint ac Ipswich - gyda therfysgoedd bron yng Nghaergaint.

Cafodd y Nadolig ei adfer wrth adfer Monarchiaeth ym 1660. Roedd hyn yn rhyddhad mawr i'r cyhoedd am ei bod yn eu galluogi nhw i ddathlu'r hen arferion eto'n gyhoeddus ac yn breifat.

Yn Jamaica, mae pryd traddodiadol y Nadolig yn cynnwys reis, ffa gungo, cyw iâr, cynffon ych a gafr trwy gyri.

Joel Roberts Poinsett, llysgennad cyntaf yr UDA ym Mecsico, fu'n gyfrifol am fewnforio'r poinsetia, planhigyn gaeafol o Fecsico i'r UDA dros 100 mlynedd yn ôl. Enw arall ar y planhigyn yw 'Blodyn y Nos Ddwyfol' a daw ei gysylltiad â'r Nadolig o chwedl Maria a Pablo, brawd a chwaer tlawd sy'n dod â blodyn poinsetia i'r baban Iesu yn eu heglwys leol.

Fel symbol o ddechrau'r gwyliau, byddai pobl yn mynd ag aradr i'r tŷ ac yn ei roi o dan y bwrdd yn yr ystafell lle byddai'r bwyd yn cael ei fwyta. Enw'r ystafell oedd y rwm ford.

Yn y 19eg ganrif, byddai pobl yn dathlu dydd Nadolig gyda phryd moethus o ŵydd, cig eidion a phwdin yn ffermydd mawr yr ardal, a châi'r holl ffermwyr eraill wahoddiad.

Byddai pobl yn treulio gweddill y gwyliau, tan ddydd Gŵyl Ystwyll, yn gwledda o gwmpas y rwm ford. Cyn yfed y cwrw, byddai'n cael ei ddabio ar yr aradr o dan y bwrdd yn gyntaf i ddynodi nad oedd unrhyw ddefnydd i'r aradr y diwrnod hwnnw, ond nad oedden nhw wedi anghofio amdani.

Mewn sawl rhan o Gymru, roedd y Nadolig yn golygu codi'n fore (neu aros i fyny drwy'r nos), nid i agor anrhegion ond i fynd i'r gwasanaeth Plygain yn eglwys y plwyf. Mae'r rhyw addasiad o'r arfer hon wedi goroesi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Mae rhai pobl wedi awgrymu mai ffurf ar wasanaeth Cristnogol o gyfnod cyn y diwygiad oedd y Plygain. Cymrodd y gwasanaeth nos le offeren ganol nos y Catholigion. Yn wreiddiol roedd yn gysylltiedig â gwasanaeth cymun yn hwyrach ar fore Nadolig.

Roedd amser y Plygain yn amrywio rhwng 3am a 6am. Daeth 6am yn fwy cyffredin gydag amser.

I ddisgwyl yr awr, byddai pobl ifanc yn arbennig yn gwneud cyflaith (taffi triog) ac yn treulio'r oriau'n addurno'u tai â chelyn ac uchelwydd. Roedd gwneud cyflaith yn grefft a byddai angen arllwys y cynhwysion gludiog ar garreg neu lechen wedi ei iro'n dda i oeri. Wedyn byddai'r teulu a'u ffrindiau'n ceisio tynnu'r cyflaith i wneud 'cyfrodeddau' trwchus. Mae'r arfer hon yn dal i gael ei harddangos yn ffermdy Llwyn yr Eos yn Sain Ffagan adeg y Goeden Nadolig.

Yn ôl dyddiadur Mrs Thrale am ei thaith ym 1774, byddai trigolion Dyffryn Clwyd yn cynnau goleuadau am 2 y bore, ac yn canu a dawnsio i gerddoriaeth y delyn tan y Plygain.

Mewn sawl ardal, ac yn arbennig y trefi, byddai pobl yn treulio'r amser yn chwarae yn y strydoedd. Yn Nhalacharn, byddai'r dynion ifanc yn rhedeg ar hyd y strydoedd yn cario ffaglau anferth a barilau'n llosgi. Byddai golygfeydd tebyg yn Ninbych-y-Pysgod a Llanfyllin yn Sir Faesyfed lle byddai canhwyllau'n cymryd lle'r ffaglau.

Ar ôl cyrraedd yr eglwysi oedd wedi eu goleuo'n llachar gan ganhwyllau, byddai yna garolau anarferol o hir, yn aml yn ddigyfeiliant ac mewn troeon cylch gydag un yn barod i gymryd lle'r diwethaf yn y gwasanaeth sobreiddiol a dwys yma i groesawu bore Nadolig.

Byddai beirdd lleol yn ysgrifennu carolau newydd gyda phenillion di-ben-draw ar themâu traddodiadol i baratoi ar gyfer y Plygain. Byddai rhaid i'r bobl oedd yn canu'r carolau eu dysgu ar eu cof a'u canu'n ddigyfeiliant. Gallai cymaint â 15 o'r carolau hyn cael eu canu yn ystod y Plygain.

Ymhell o ddiflannu o dan effeithiau Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y Plygain oedd un o'r ychydig gwasanaethau eglwysig traddodiadol gafodd eu cadw'n fyw yn y capeli. Byddai rhwng 200 a 300 o ganhwyllau lliw yn goleuo capeli pentrefi Morgannwg.

Gall cinio Nadolig yn yr Eidal bara dros 4 awr. Bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn mwynhau 7 cwrs neu fwy gan gynnwys antipasti, pryd bach o basta, cig rhost, 2 salad a 2 bwdin melys - wedyn caws, ffrwythau, brandi a siocledi.

Ym 1939, dosbarthodd Santas siopau Montgomery Ward 2.4 miliwn copi o lyfryn o'r enw 'Rudolf the Red-Nosed Reindeer'. Gweithiwr hysbysebu ysgrifennodd y stori. Enw gwreiddiol y carw oedd Rollo, nid Rudolph, ond doedd rheolwyr y siop ddim yn hoffi'r enw, na Reginald chwaith. Merch fach yr awdur feddyliodd am yr enw Rudolph, ac ym 1949 canodd Gene Autry fersiwn gerddorol o'r gerdd oedd yn boblogaidd dros ben. Rudolph the Red-Nosed Reindeer yw'r gân fwyaf poblogaidd ond un yn America, ar ôl 'White Christmas'.

Newidiodd natur y gwyliau o achlysur cymdeithasol iawn i un o ddathlu fel teulu yn y cartref yn ystod y 19eg ganrif. Cymrodd llawer o'r dathliadau masnachol rydyn ni'n gyfarwydd â nhw heddiw le'r hen draddodiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd traddodiadau'r Nadolig eu trawsnewid yn llwyr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria. Hi a'r Tywysog Albert yn aml sy'n cael y clod am adfywio'r Nadolig a'i wneud yn achlysur i'r teulu. Hi'n aml sy'n cael y diolch am gyflwyno'r arfer o anfon cyfarchion y tymor ac addurno coed Nadolig.

Gwelwyd adfywiad hen gerddoriaeth y Nadolig yn Oes Victoria hefyd. Arweiniodd hyn at gasglu llawer o garolau cynnar at ei gilydd a'u gosod i gerddoriaeth am y tro cyntaf. Byddai pobl bonheddig Oes Victoria canu caneuon secwlar modern y Nadolig o gwmpas y piano.

Roedd cardiau cyfarch ar gyfer y Flwyddyn Newydd a Dydd Sant Ffolant wedi bod yn boblogaidd yn Ewrop ers y 1550au. Roedd plant ym Mhrydain yn cael y dasg o gynllunio nodiadau â neges o gariad y Nadolig ar gyfer eu rhieni ar ddiwedd tymor yr ysgol yn y gaeaf er mwyn dangos eu llawysgrifen. Ond fe gymrodd dros 30 mlynedd yn Oes Victoria i'r garden Nadolig fasnachol ddatblygu i fod yn draddodiad.

Doedd dim amynedd gan Syr Henry Cole, sylfaenydd Amgueddfa Victoria ac Albert, i ysgrifennu llwyth o gardiau â llaw ar gyfer ei deulu, ffrindiau a'i gydnabod i gyd bob blwyddyn. Ym 1843 comisiynodd aelod o'r Academi Frenhinol, John Horsley, i gynllunio carden Nadolig ar ei gyfer. Dyma ddechrau'r garden Nadolig.

Ar garden gyntaf Cole, roedd llun hapus o deulu oedd yn amlwg ar fin llyncu lot fawr o ddiod feddwol yn codi eu gwydrau anferth ar gyfer llwncdestun tymhorol. Y neges oedd: 'A Merry Christmas and a Happy New Year to You', geiriad sydd wedi aros gyda ni beth ers hynny - ac nid cyd-ddigwyddiad yw hi i'r gair 'merry' ddod i olygu meddwi o dipyn i beth.

Cafodd y cardiau Nadolig cyntaf eu gwerthu yn 12 Old Bond Street yn Llundain am swllt yr un, ond methiant oedd y fenter ac roedd llawer o bobl yn teimlo ei bod hi'n beth hollol ddi-chwaeth. Erbyn y 1860au, roedd prisiau postio'n llai ac roedd technegau printio wedi datblygu gan ei gwneud hi'n bosibl cynnig cardiau Nadolig am bris llai o lawer.

Ym 1870, cyflwynwyd cynnig postio hanner pris - y cerdyn stamp dimai. Daeth cardiau'n bethau cywrain gyda les, gwymon a ffotograffau oll yn cymryd eu tro yn y ffasiwn cardiau Nadolig.

Byddai llawer o'r cardiau Nadolig cynnar hyn i'w gweld yn amhriodol iawn i ni heddiw am fod blodau'r gwanwyn, pryfed a merched noeth arnyn nhw yn ogystal â dail celyn, eiddew, rhosod y Nadolig, golygfeydd crefyddol a Siôn Corn.

O dipyn i beth, daeth cardiau Nadolig Cymraeg i fod, ac mae casgliad mawr o'r cardiau cynnar hyn i'w gweld yn yr Amgueddfa Werin. Ym 1933, roedd cylchgrawn Urdd Gobaith Cymru, 'Cymru'r Plant' yn annog ei ddarllenwyr ifanc i anfon cardiau Nadolig yn Gymraeg a chyhoeddodd erthygl dig oedd yn nodi bod yn well gan lawer o bobl Cymru, gan gynnwys Cymry enwog, anfon eu cardiau yn Saesneg am fod yn iaith honno'n fwy 'crand' neu 'neis'. Mae'r rhan fwyaf o'r elusennau a chyhoeddwyr mawr yn cynhyrchu cardiau yn Gymraeg erbyn hyn, ac mae diwydiant cartref llewyrchus dros ben mewn cardiau wedi eu gwneud â llaw.

Daeth Siôn Corn i'w ffurf bresennol yn ystod y 19eg ganrif. I'r rhan fwyaf o bobl yr ugeinfed ganrif, yr un person oedd Siôn Corn (Father Christmas) a Santa Clôs, ond dim ond yn ystod y ganrif ddiwethaf daeth y 2 draddodiad hollol wahanol hyn yn un, a'r ddau enw'n gyfnewidiol.

Roedd Siôn Corn wedi bod yn adnabyddus yn Lloegr ers yr oesoedd canol, ac weithiau byddai pobl yn ei adnabod yn syml fel Christmas neu Mr Christmas. Fel ymgnawdoliad o ewyllys da yn hytrach nag fel rhoddwr anrhegion, gallai'r dyn yma â chanddo farf gwyn a mantell las fod wedi deillio o'r duw Llychlynnaidd, Odin.

Yn wrthgyferbyniol, mae gan Sant Nicolas stori mwy pendant o lawer. Fel Esgob o dref Myra yn Nhwrci, mae sawl chwedl yn gysylltiedig â'i enw, ond mae'n fwyaf enwog am roi ei gyfoeth i'r tlawd ac am fod yn hael ac edrych ar ôl plant.

Mae cysylltiadau agos Sant Nicolas, sy'n boblogaidd ledled Ewrop, â'r Iseldiroedd. Ar noswyl Gŵyl Sant Nicolas, sef 6 Rhagfyr, byddai plant yn rhoi eu hesgidiau neu eu clocsiau llawn gwair allan wrth y tan i fwydo ceffyl gwyn y Sant. Byddai'n llenwi esgidiau'r plant da â losin, ond yn gadael y gwair yn esgidiau'r plant drwg ac yn gadael gwialen wrth yr ochr i'w hatgoffa...

Santa Clôs yw disgynnydd Iseldiraidd-Americanaidd Sant Nicolas. Ar ôl ymgartrefu yn New England, daeth Sant Nicolas (Sint Nicolass), yn Sinterklaas ar lafar gwlad, a throdd hyn yn Santa Clôs yn y pen-draw.

Yn ei gerdd 'A Visit From St Nicholas', a ysgrifennodd ar gyfer ei blant ei hun ym 1822, creodd Clement Clarke Moore y ddelwedd rydyn ni'n dal i gysylltu â Siôn Corn heddiw:
'He was dressed all in fur from his head to his foot
And his clothes were all blackened with ashes and soot...
His eyes how they twinkled! His dimples how merry!
His cheeks were like roses, his nose like a cherry...
He was chubby and plump, a right jolly old elf,
And I laughed when I was him, in spite of myself'.

Dim ond ar ddechrau'r 20fed ganrif y trodd dillad Siôn Corn yn goch. Ym 1931, dechreuodd Haddon Sundblom wneud lluniau blynyddol o Santa mewn siwt coch llachar ar gyfer cwmni Americanaidd Coca-Cola, gan ddefnyddio lliw label y botel ...

Heddiw mae 7 miliwn o blant yn gadael mins peis a diod i Siôn Corn cyn mynd i'r gwely ar Noswyl y Nadolig.

Erbyn dechrau'r 20fed ganrif, dechreuodd gwneuthurwyr a siopau sylweddoli gwir botensial masnachol y Nadolig, a byddai hyd yn oed y teuluoedd tlotaf yn rhoi rhyw fath o anrhegion i'w gilydd ar ddydd Nadolig.

Daeth yr hosan i Brydain am y tro cyntaf ganol y 19eg ganrif. Addasiad Americanaidd oedd hwn o'r arfer o roi esgidiau allan i Sant Nicolas.

Cyn bo hir, symudodd yr hosan o'r lle tân a ffeindio'i ffordd i waelod y gwely. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o blant Prydain yn defnyddio hosanau plastig anferth neu fagiau sbwriel yn lle'r hen hosanau oedd yn cael eu llenwi â ffrwythau, cnau a chyllell boced a chwiban geiniog 'slawer dydd.

Gwelsom ni gracyrs y Nadolig am y tro cyntaf ym 1847. Tom Smith, prentis cyffeithiwr ddyfeisiodd y syniad. Ni wnaeth y cracyrs, oedd wedi eu seilio ar losin bon-bon Ffrengig oedd wedi eu lapio mewn papur lliw pert, glec tan 1860 pan ychwanegodd Smith stribed o solpitar.

Yn raddol ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, cymrodd addurniadau artiffisial le'r dail bythwyrdd fyddai'n cael eu casglu i addurno'r cartref, ac yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Gyda llai o goedwigoedd gerllaw a gerddi llai o faint, roedd prynu gwyrddni o siop flodau neu farchnad yn ddewis drud o'i gymharu â blwch o addurniadau papur a thinsel oedd yn gallu cael eu storio a'u defnyddio bob blwyddyn.

Daw gwreiddiau'r dylwythen deg sy'n eistedd ar ben y goeden o draddodiad Almaenaidd o'r 17eg ganrif. Yn ôl y traddodiad, byddai pobl yn rhoi delwau bach cwyr neu bren o'r baban Iesu dros y Coed Nadolig i gyd. Dros amser, datblygodd y traddodiad i roi un ddelw nawr o'r enw'r Angel Tun Aur ar ben y goeden, ac erbyn y 19eg ganrif, roedd y bobl oedd yn gwneud y delwau wedi eu troi'n angylion Nadolig o gwyr neu borslen.

Ar ôl y Nadolig, byddai plant yn gwisgo'r Angel Tun Aur fel dol, a rhywbryd yn ystod Oes Victoria trodd yr angel yn ferch hefyd.

Mae gwreiddiau'r Dylwythen Deg Dda ym mhantomeim y Nadolig yn y newid hwn o'r Baban Iesu i'r dylwythen deg, oedd mor hoff i blant yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae gwreiddiau pantomeim y Nadolig yn y dramâu mud oedd yn cael eu chwarae gan ddynion i gyd adeg y Nadolig. Câi'r dramâu hyn eu perfformio ym mhlastai mawr Prydain yn yr oesoedd canol. Byddai gan y Dramâu Mud, a fyddai'n cael eu perfformio'n aml gan berfformwyr stryd, neges foesol gadarn lle byddai daioni'n trechu drygioni bob tro.

Yn y 18fed ganrif gynnar, newidiodd yr Harlecwinâd Eidalaidd yn Llundain o fod theatr stryd i fod yn ddrama ramant gydag arwr ac arwres, gyda elfen ychwanegol o glown. Y cydrannau sylfaenol hyn, a'r dramâu mud, oedd hanfodion y pantomeim traddodiadol Prydeinig.

Cafodd gwir bantomeim cyntaf Prydain ei lwyfannu gan yr actor John Rich ym 1717 yn Theatr Lincoln's Inn Fields, Llundain. Daeth y panto'n boblogaidd dros ben yn Llundain ac ymhen dim, ychwanegwyd chwedlau tylwyth teg a ffantasi at y plot. Daeth elfen yr harlecwin mud yn llai ac yn llai nes diflannu'n llwyr.

Ychwanegodd arddulliau vaudeville, bwrl