Datganiadau i'r Wasg
Gof newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn gwneud calonnau haearn ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen a Sant Ffolant
Dyddiad:
2018-01-24Gyda Diwrnod Santes Dwynwen ar y gorwel- mae’n amser edrych am anrheg bach i’ch hoff berson? Beth well nag anrheg unigryw wedi ei wneud â llaw? Rhywbeth fel calon bach haearn unigryw gan Gof Amgueddfa Lechi Cymru?
Mae’r calonnau ar gael yn yr amgueddfa yn dilyn apwyntiad Liam Evans o Waunfawr fel gof ar y safle. Ymunodd Liam â’r amgueddfa ar ddiwedd flwyddyn diwethaf ac yn barod mae wedi rhoi sawl arddangosiad i ymwelwyr y safle. Nawr mae’n dechrau troi ei law at greu nwyddau unigryw i’w gwerthu yn y siop.
Mae cael Gof ar y safle – cyn weithdai i chwarel Dinorwig Llanberis - yn adlewyrchu’r gwaith grefft gwych oedd yn perthyn i’r safle yn wreiddiol, ac yn dod a bywyd nol i’r gweithdai gwreiddiol sydd i’w darganfod yn ochr orllewinol y safle.
“Roedd y gweithdai yn galon i’r Chwarel, gyda’r Gof yn elfennol at waith y chwarelwyr, yn cynhyrchu offer pwrpasol haearn iddynt er mwyn galluogi nhw i chwarrlu’r lechen. Byddai Gof da yn deall anghenion gwahanol y chwarelwyr, gan greu eitemau pwrpasol i’r gwaith oedd angen. Ar un adeg roedd 12 tan yn llosgi yn yr Efail yma gyda tim mawr i ddynion yn taro a bwrw haearn.”
Ac i Liam, cyn ddisgybl o Ysgol Cenedlaethol y Gof yng Ngholeg Technoleg Yr Henffordd, dim ond un mewn cyfres o brojectau y mae’n gobeithio eu datblygu at y dyfodol ydi’r calonnau. “
"Toeddwn i ddim yn credu fy lwc pan ddaeth y cyfle i weithio yma yn yr amgueddfa iconic yma fel Gof a mor agos i adra! Yn yr ychydig fisoedd dwi wedi bod yma dwi wedi cael cyfle i weithio ar gymaint o brojectau gwahanol! Dwi’n edrych ymlaen cymaint i gael gweithio ar gynlluniau newydd gan ddefnyddio’r holl sgiliau dwi wedi ennyn yn y Coleg!”
Mae’r calonnau a eitemau haearn eraill i’w cael yn siop yr amgueddfa ar hyn o bryd!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r amgueddfa ar 02920 573700 @amgueddfalechi