Datganiadau i'r Wasg

Llwyddiant i'r Pwll Mawr

Heddiw (14 Ionawr 2005), cafodd y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru ei enwi ar restr fer Gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian. Mae'r amgueddfa, gafodd ei hailddatblygu mewn project gwerth £7.1 miliwn y llynedd, yn un o gwta deg amgueddfa o bob rhan o'r DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr flaenllaw hon.

Mae'r Pwll Mawr yn un o chwe safle Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ledled Cymru, a hi yw'r unig amgueddfa o Gymru i gyrraedd y rhestr fer. Wrth groesawu cyhoeddiad Gulbenkian, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol AOCC, Eurwyn Wiliam:

"Rydyn ni wrth ein bodd ar y cyhoeddiad a wnaed heddiw. Yn ogystal â bod yn newyddion da i'r Pwll Mawr a Blaenafon, mae'n newyddion da i Gymru gyfan. Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ailddatblygu'r Pwll Mawr, rydw i wedi gweld trawsnewidiad y safle, a gwaith hanfodol pwysig grŵp o bobl hollol ymroddgar drosof fi fy hun.

"Roedd 2004 yn flwyddyn wych i'r Pwll Mawr, gyda mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen, ac mae cyhoeddiad heddiw yn ddechrau arbennig iawn i'r flwyddyn newydd gan roi hwb ir safle wrth iddo baratoi i agor ar gyfer tymor 2005. Mae Gwobr Gulbenkian yn rhywbeth y mae pob amgueddfa'n anelu ato, ac felly rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni ar y rhestr fer eleni."

Ychwanegodd Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh:

"Mae cyrraedd rhestr fer Gwobr Gulbenkian yn gamp aruthrol, ond yn un y mae'r Pwll Mawr yn hollol haeddiannol ohoni. Mae gwaith ailddatblygu helaeth y flwyddyn diwethaf wedi trawsnewid y Pwll Mawr i greu atyniad o safon ryngwladol sy'n sefyll allan fel enghraifft wych o sut gall amgueddfeydd lwyddo i ddod â'r gorffennol yn fyw. Yn siarad fel mab gl