Datganiadau i'r Wasg

Palu dros Brydain gyda Marguerite Patten a dathlu Diwrnod y Daten yn Amgueddfa Werin Cymru 30.01.05

Mae Marguerite Patten OBE wedi bod yn dysgu Prydain sut i goginio ers y 1930au. Fel un o Economyddion Cartref Adran Cynghori ar Fwyd y Weinyddiaeth Fwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Marguerite a'i chydweithwyr wrthi'n ymgyrchu'n hollol ddiflino i ddod o hyd i bobl Prydain ac agor eu llygaid i bwysigrwydd bwydo eu teuluoedd yn dda ar y dognau oedd ar gael. Gyda Potato Pete a Lord Carrot yn arwain y gad, roedd y ffordd newydd iachus hwn o fyw o anghenraid yn isel mewn braster a siwgr ac yn llawn ffibr a llysiau. Teithiodd yr Adran Gynghori ar Fwyd ledled Prydain gan arddangos eu ryseitiau mewn marchnadoedd, siopau, ffatrïoedd, cantinau, a chlinigau lles a rhoi hwb i ysbryd y genedl. Wrth gyfrannu at Kitchen Front, oedd yn cael ei darlledu bob dydd ar y BBC, llwyddodd Marguerite i rannu ei hoff ryseitiau â'r genedl, ac roedd y ryseitiau hyn yn cynnwys tatws yn amlach na pheidio.

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Daten ar 30 Ionawr ac i gofio pa mor bwysig oedd y daten i ddiet y genedl yn ystod blynyddoedd dogni'r Ail Ryfel Byd, mae'r Amgueddfa Werin wrth ei bodd i groesawu Marguerite Patten i'r Amgueddfa. Bydd yn cynnal diwrnod o ddosbarthiadau meistr gyda thatws, a sgyrsiau am fanteision diet y Rhyfel a sut i fyw wrth ei hegwyddorion iachus heddiw. Pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939, cafodd y ffermwyr orchymyn i gynhyrchu mwy o datws trwy aredig tir glas a chafodd mwy a mwy o datws eu cynhyrchu wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen. Diolch i'r cynllunio a'r plannu gofalus yma, doedd dim angen dogni tatws yn ystod y rhyfel.

Roedd Marguerite a'i chydweithwyr yn Swyddfa Gynghori'r Weinyddiaeth Fwyd yn annog y genedl i fwyta tatws dwywaith y dydd. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o ynni ar ffurf carbohydrad, mae'r hen daten ddiymhongar yn gyfoeth o Fitamin C hefyd. Er mwyn annog pobl i'w bwyta, cafodd cymeriad cartŵn o'r enw Potato Pete ei ddyfeisio gyda'i gân, ei lyfr ryseitiau a'i daflenni ei hun. Roedd modd ychwanegu tatws at gynhwysion cacennau a chrwst i'w chwyddo er mwyn arbed braster. Mae Marguerite yn cofio "Roedd llysiau'n rhan bwysig iawn o'n diet. Roedden nhw'n ein hannog ni i fwyta digonedd o datws yn lle bara, oedd yn defnyddio gwenith wedi ei fewnforio, ac i elwa ar eu fitaminau gwerthfawr. Roedden ni'n defnyddio moron, pannas a rwdan mewn pob math o ryseitiau hefyd, roedd llysiau gwyrdd yn bwysig iawn ac roedd pwyslais mawr ar eu coginio nhw'n iawn". Y cyngor i gogyddion ar y pryd oedd sgrwbio tatws yn hytrach na'u plicio er mwyn osgoi colli hyd at chwarter o'r daten a fitaminau hanfodol.

Roedd tatws sgolop, stwnsh, sglodion a thatws Jên i gyd yn ryseitiau poblogaidd adeg y rhyfel, ac roedd Biwro Cynghori'r Weinyddiaeth Fwyd yn eu hyrwyddo'n eang. Er bod y bwyd yn ddiflas gydag ychydig iawn o gig, wyau a menyn (a diffyg llwyr llawer o'r bwydydd rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol heddiw), roedd iechyd y genedl yn rhyfeddol o dda er gwaethaf y straen corfforol ac emosiynol oedd ar lawer o bobl. Roedd llai o fabanod yn marw, ac roedd oedran cyfartalog pobl drwy farwolaeth naturiol yn uwch. Daeth y dogni gorfodol yma â mwy o brotein a fitaminau i ddiet pob dydd llawer o'r bobl dlotaf yn y gymuned, ac roedd bwyta llai o gig, braster a siwgr yn fanteisiol iawn i iechyd sawl un arall.

Bu garddwyr cartref wrthi'n cynhyrchu tatws hefyd mewn ymateb i'r ymgyrch "Dig for Victory". Fodd bynnag, roedd y Weinyddiaeth Amaeth yn annog tyfwyr cartref rhag beidio â thyfu gormod o datws ar draul llysiau eraill, ac i gadw at y cynllun cnydau swyddogol. Argymhellwyd mathau fel Arran Pilot, Duke of York a King Edward, ac maen nhw'n dal i fod yn boblogaidd heddiw. Gallwch weld enghraifft wych o arddio darbodaeth yng ngardd pre-ffab B2 yr Amgueddfa gyda llysiau, ffrwythau, a pherlysiau oll yn cael eu tyfu gan ddefnyddio argymhellion y Weinyddiaeth Amaeth o ran technegau a chynlluniau cnydau yn ystod y 1940au.

Mae John Williams Davies, Cyfarwyddwr Amgueddfa Werin Cymru'n pwysleisio pwysigrwydd gwaith y Biwro Cynghori am Fwyd a'r daten di-nod yn ystod y cyfnod hanfodol hwn yn ein hanes diweddar yng Nghymru: "Er bod y daten wedi bod yn rhan annatod o ddiet y cyfoethog a'r tlawd fel ei gilydd yng Nghymru ers blynyddoedd, newidiodd yr Ail Ryfel Byd a'r dogni llym sawl agwedd ar goginio, garddio a'n diet cenedlaethol am byth. Wrth ddehongli bywydau pob dydd pobl Cymru, mae gerddi'r Amgueddfa a'u cynnwys hanesyddol yn rhan annatod o'r gwaith o roi'r darlun cyfan am sut aeth y Cymry ati i dyfu, tendio a choginio eu bwyd. Rwy'n eithriadol o falch o groesawu Marguerite Patten i Sain Ffagan ar y diwrnod arbennig hwn i ddathlu un o'n bwydydd mwyaf amhrisiadwy sy'n cael ei gymryd mor ganiataol, y daten, ac i gofio, gyda'n staff a'n hymwelwyr, ei rôl hanfodol wrth fwydo'r genedl yn ystod yr Ail Ryfel Byd".

Mae mynediad i Amgueddfa Werin Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.