Datganiadau i'r Wasg

AOCC yn cyhoeddi cymrodyr ymchwil

Mae Cyngor Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) wedi cyhoeddi enwau pum academydd blaenllaw fel Cymrodyr Ymchwil Anrhydeddus. Daw'r Cymrodyr Ymchwil Anrhydeddus hyn o bob math o gefndiroedd ac mae AOCC yn cydnabod eu gwaith yn eu meysydd arbenigedd unigol.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd y Cyngor, Paul Loveluck: "Mae'n bleser mawr gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gyhoeddi enwau ein chwe Chymrawd Anrhydeddus, sydd oll yn cael eu cydnabod am gefnogi gwaith yr Amgueddfa yn ogystal â'u campau eu hunain yn eu meysydd unigol.

"Mae pob un o'r chwech wedi chwarae rhan bwysig yn newid a datblygiad parhaus AOCC ac ar ran Cyngor yr Amgueddfa rydw i wrth fy modd i gydnabod eu campau'n ffurfiol gyda'r Cymrodoriaethau Ymchwil arbennig hyn".

Mae'r Athro W. T. Dean wedi bod yn gweithio gyda'r Adran Ddaeareg yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ers sawl blwyddyn. Mae'n awdurdod mawr ei barch ar stratigraffeg Paleosoig Is, paleograffeg a ffawna trilobitau. Mae'r Athro Dean wedi cyfrannu casgliadau helaeth o ddeunydd pwysig i'r adran Ddaeareg yn yr Amgueddfa Genedlaethol lle mae'n parhau â rhaglen o waith ymchwil gweithredol.

Mae'r Athro J.C.W. Cope yn ddaearegydd blaenllaw ac mae ganddo ddiddordebau ymchwil ym meysydd stratigraffeg Jwrasig a ffawna amonitau; dwygragenogion Paleosoig Is a ffawna Cyn-Gambriaidd. Ar sail ei gyfraniadau helaeth at gasgliadau'r amgueddfa, a'i gydweithredu agos mewn gwaith ymchwil gyda'r staff, cafodd yr Athro Cope ei benodi'n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym 1987. Ers ymddeol o Brifysgol Caerdydd yn 2003, mae'r Athro Cole wedi gweithio gyda'r Adran Ddaeareg fel Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus preswyl, lle mae'n parhau gyda rhaglen o waith ymchwil gweithredol.

Mae Dr Peter Webster wedi bod yn dysgu Archaeoleg ers 1969 ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys serameg Rhufeinig, Canoloesol ac Ôl-ganoloesol, a strwythurau milwrol a dinesig cyfnodau'r Rhufeiniaid a'r Canoloesoedd. Mae'n agosáu at derfyn project ymchwil sy'n anelu at gatalogio a chrynhoi llestri Rhufeinig samiaidd Caerllion, ar sail casgliad Amgueddfa'r Lleng Rufeinig a chasgliadau eraill yng Nghaerdydd. Mae Dr Webster wedi goruchwylio traethodau ymchwil ôl-raddedigion ar agweddau ar gasgliadau'r amgueddfa hefyd. Mae Dr Webster yn ymwelydd cyson â'r Adran ac â Chaerllion, ac mae'n cyfrannu'n helaeth at ddealltwriaeth o'r casgliad.

Fel darlithydd Archaeoleg Rhufeinig yn Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd, prif ddiddordeb ymchwil Dr Peter Guest yw archaeoleg Prydain Rufeinig. Mae Dr Guest yn y broses o gydlynu'r project sy'n dilyn y gwaith cloddio yn Fforwm-Basilica Caerwent ar ran Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac mae e wedi dechrau project y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ar Arian yr Oes Haearn a Rhufeinig yng Nghymru gyda staff allweddol o'r Adran Archaeoleg a Niwmismateg.

Mae'r Parch. Dr David H. Williams yn Hanesydd Daearyddol ac yn offeiriad Anglicanaidd sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am y Urdd y Sistersiaid yng Nghymru a seliau eglwysig. Mae'r Parch. Dr Williams wedi bod wrthi'n llunio catalog manwl o seliau yn Adran Archaeoleg a Niwmismateg yr Amgueddfa Genedlaethol a chafodd ei benodi'n Gymrawd Ymchwil am y tro cyntaf ym 1993.

Hoffai Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru estyn llongyfarchiadau cynnes i'w holl Gymrodorion Ymchwil Anrhydeddus ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r bartneriaeth o ddarganfod ac arloesi'n academaidd.

Mae mynediad i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru 029 2057 3175 gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk