Datganiadau i'r Wasg

Aduniad Cyfeillion: Aduniad Faciwîs yr Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Werin Cymru.

Wrth i gysgodion tywyll y rhyfel ymddangos uwchben Prydain yn 1938, penderfynodd y Llywodraeth gymryd camau i sicrhau diogelwch y plant a'r bobl mwyaf bregus mewn ardaloedd diwydiannol neu ddinesig a fedrai fod yn dargedau i ymosodiadau neu fomiau'r gelyn. Dros y blynyddoedd, symudwyd miliwn a haner o blant i ardaloedd gwledig, diogelach, miloedd lawer ohonynt i Gymru, yn cynnwys Nina Bawden, awdur y clasur i blant 'Carrie's War'. I aduno'r efaciwîs a arhosodd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'u ffrindiau a'r teuluoedd a roddodd gartref iddynt, mae Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu plant y rhyfel i gyfarfod eto ar Ddydd Gŵyl Dewi am ddiwrnod o atgofion, straeon, cerddoriaeth ac aduno.

Pwysleisiodd y Llywodraeth o hyd mai gwirfoddol oedd y mudo ac na ddylid gwahanu teuluoedd ar unrhyw gyfrif pe na baent yn dymuno hynny. Mewn rhai ffyrdd gallai fod wedi bod yn haws petai'r mudo wedi bod yn orfodol gan fod y penderfyniad i anfon eich plant i ffwrdd yn un a bwysai'n drwm ar bawb. Ychydig o blant oedd erioed wedi teithio ar draws gwlad a doedd y mwyafrif o deuluoedd erioed wedi bod ar wahan i'w gilydd hyd at y dydd torcalonnus hwnnw pryd y daeth yn amser i ffarwelio yn yr ysgolion lleol, lle tywyswyd y plant at fysiau a thramiau, yn aml gan bobl ddiarth, yn bwrw'r olwg olaf ar eu cartrefi wrth iddynt deithio tuag at orsaf y rheilffordd.

O'r 1af o Fedi 1939, roedd gorsafoedd rheilffordd y ddinasoedd mwyaf yn llefydd eithriadol o drist gyda miloedd o blant yn cario bagiau bychan, pecynnau papur, ambell dedi bêr a'r holl bresennol fwgwd nwy, yn barod i gamu ar y trenau stem i ddiogelwch. Gyda labeli papur brown wedi ei gludio ar eu cotiau neu siwmperi, ffarweliodd y plant â phopeth oedd yn gyfarwydd iddynt i wynebu bywyd newydd mewn amgylchedd gwahanol iawn, yn aml gyda rhythm bywyd gwahanol iawn ac iaith newydd: Cymraeg. Gwelodd rai eu hamser fel efaciwîs fel y gorau yn eu bywydau ond dioddefodd rhai plant gamdriniaeth megis caethlafur neu waeth.

A fedrwch chi'n cynorthwyo i ddod o hyd i efaciwîs Cymru a'u lletywyr? A fuoch chi yn efaciwî yng Nghymru neu a wnaeth eich teulu neu gymuned letya plant ifanc o Brydain gyfan? A fuoch chi'n aros yn nerfus mewn neuaddau pentref Llanddewi neu Llanberis, Aberdâr neu Grymych wrth i dorfeydd o fân estroniaid gael eu dosbarthu i deulu a chyfeillion i fywyd newydd a dieithr yng Nghymru? Dywedwch wrthym am eich profiadau a chymerwch ran yn ein diwrnod o gerddoriaeth ac atgofion, spam fritters ac ad-duniadau emosiynol ar y diwrnod Dydd Gwyl Dewi arbennig iawn hwn yn Amgueddfa Werin Cymru.

Mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.