Datganiadau i'r Wasg

DIFYRRWCH ARBENNIG AR ŴYL DDEWI

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnal digwyddiadau arbennig ar Ddydd Sul 27 Chwefror i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni. Bydd yr hwyl yn cychwyn am 1.00yp ac yn parhau tan 4.00yp.

Mae'r gweithgareddau, sydd i gyd yn ddwyieithog, yn seiliedig ar draddodiadau a hynafiaeth Gymreig. Caiff ymwelwyr o bob oed bleser wrth wrando ar delynores yn chwarae cerddoriaeth a bydd plant yn siwr o ddotio ar baentio'u gwynebau â'r Ddraig Goch neu Gennin Pedr a darlunio croesau Celtaidd ar lechi. Bydd Cwmni Cortyn yn crwydro'r safle gyda phypedau a bydd Mair Tomos Ifans yn adrodd storïau a chwedlau.

Am y tro cyntaf, bydd gwenynwr lleol yn siarad am gadw gwenyn a gwneud mêl. Gwahoddwyd yr arddangoswr hwn i gymryd rhan oherwydd mae'n debyg, yn ôl yr honiad, i Ddewi Sant gadw gwenyn.

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC). Mae gan AOCC chwe safle ar draws Cymru: y Pwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon; yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'n agor yn haf 2005 gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.