Datganiadau i'r Wasg
Dathliad o enwau mawr byd ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2019-10-26Mae tair arddangosfa o waith pedwar o’r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol erioed yn agor dydd Sadwrn 26 Hydref 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae Tymor Ffotograffiaeth 2019–20 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno gwaith y ffotograffwyr nodedig August Sander, Bernd a Hilla Becher, a Martin Parr.
Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys lluniau wedi’u benthyg yn bennaf, nifer ohonynt erioed wedi cael eu harddangos o’r blaen, a’r cyfan yn cael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae Martin Parr yng Nghymru (26 Hydref 2019–4 Mai 2020) yn canolbwyntio ar waith Martin Parr, un o’r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol a chynhyrchiol sy’n gweithio heddiw. Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, bu’n cofnodi pobl, llefydd a diwylliannau yn y DU a thu hwnt, gan archwilio themâu hamdden, treuliant a chyfathrebu. Mae’n portreadu bywyd modern mewn ffordd chwareus a hoffus.
Mae’r arddangosfa’n casglu ynghyd, am y tro cyntaf, gasgliad o weithiau Parr yng Nghymru o ganol y 1970au hyd at 2018. Mae ei luniau – nifer ohonynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen – yn archwilio gwahanol agweddau ar fywyd a diwylliant Cymru, o gorau meibion a chwaraeon i fwyd, gwyliau a glan y môr.
Dywedodd Martin Parr:
“Bu Cymru’n dynfa i mi erioed. A minnau’n byw ychydig filltiroedd o’r ffin ym Mryste ers dros 30 mlynedd, roeddwn yn dod i Gymru’n aml i dynnu lluniau ac i ddarlithio ar gwrs ffotograffiaeth ddogfennol enwog Casnewydd. Braint yw cael arddangos y gweithiau hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hoffwn ddiolch i dîm brwdfrydig yr Amgueddfa am awgrymu’r peth, ac am ei wireddu.”
Datblygwyd yr arddangosfa hon trwy gydweithio â Martin Parr. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Caiff catalog o’r un enw ei gyhoeddi gan Amgueddfa Cymru i gyd-fynd ag agoriad arddangosfa Martin Parr yng Nghymru.
Mae YSTAFELL ARTIST: August Sander (26 Hydref 2019–1 Mawrth 2010) yn cyflwyno dros 80 o ffotograffau gan August Sander (1876–1964), un o ffotograffwyr mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Daw’r portreadau hyn o broject anferth Sander, Pobl yr Ugeinfed Ganrif. Nod y project hwn oedd dangos portread gonest o gymdeithas yr Almaen ar y pryd. Bu Sander yn tynnu lluniau pobl o bob oed a chefndir; o ffermwyr, plismyn a gwleidyddion i fricwyr, ysgrifenyddion ac artistiaid. Caiff ei destunau, bob amser yn ddienw, eu hadnabod yn ôl eu swydd neu ddosbarth cymdeithasol, a’u rhannu yn saith grŵp penodol; Y Ffermwr; Y Crefftwr; Y Fenyw; Dosbarth a Galwedigaeth; Y Ddinas; Yr Artistiaid; a’r Bobl Olaf.
Daw lluniau’r arddangosfa o gasgliad teithio ARTIST ROOMS, sy’n cynnwys dros 1,600 o weithiau celf modern a chyfoes gan dros 42 artist o fri rhyngwladol. Caiff y casgliad ei arddangos ar draws y DU mewn arddangosfeydd unigol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, y Gronfa Gelf a Creative Scotland.
Mae ARTIST ROOMS yn perthyn ar y cyd i Orielau Cenedlaethol yr Alban a’r Tate. Sefydlwyd y casgliad trwy Rodd d’Offay yn 2008, gyda chymorth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, a Llywodraethau’r Alban a Phrydain. Mae’r arddangosfa wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Mae Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant (26 Hydref 2019–1 Mawrth 2020)
yn cynnwys 225 o ffotograffau gan Bernd a Hilla Becher. Fel sylfaenwyr ‘Ysgol Düsseldorf’, fel y caiff ei galw erbyn hyn, dylanwadodd Bernd a Hilla Becher ar genhedlaeth newydd o artistiaid yn cynnwys Andreas Gursky, Candida Höfer, Thomas Ruff a Thomas Struth.
Am dros hanner canrif, bu Bernd a Hilla yn cydweithio ar broject i ddogfennu strwythurau diwydiannol ledled Ewrop ac UDA. Buont yn tynnu lluniau o offer weindio, ffwrneisi chwyth, tyrau oeri, tanciau nwy, codwyr grawn, tyrau dŵr ac odynnau calch. Ym 1965 daeth Bernd a Hilla i Gymru am y tro cyntaf, gan ddychwelyd ym 1966 wedi derbyn grant gan y British Council. O’u safle gwersylla yng Nglyn-nedd, buont yn crwydro’r Cymoedd, gan greu cyfres o ffotograffau sydd erbyn hyn yn gofeb i fyd a gollwyd; i’r llafur oedd unwaith mor ganolog i fywyd y cymunedau diwydiannol.
Mae’r arddangosfa hon yn gyfuniad o deipolegau adnabyddus Bernd a Hilla Becher, a ffotograffau unigol. Mae’r deunydd archif, sydd wedi’i fenthyg diolch i garedigrwydd stiwdio Becher, yn rhoi syniad o’u dulliau ymchwil a’u proses greadigol, ac yn edrych yn fanylach ar eu hamser yng Nghymru.
Dyma’r arddangosfa olaf i gael ei dewis gan Hilla Becher cyn ei marwolaeth yn 2015. Mae’r arddangosfa wedi’i chyd-guradu gan Dr Russell Roberts, ac wedi derbyn cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Colwinston a Sefydliad Henry Moore.
Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Cymru:
“Rydym wrth ein bodd o gael arddangos gwaith ffotograffwyr o fri rhyngwladol yng Nghymru. Mae’r tair arddangosfa hyn yn olrhain hanes ffotograffiaeth dros y ganrif ddiwethaf, ac yn mynd ar ôl pynciau sy’n dal yn berthnasol heddiw. Mae’r tymor ffotograffiaeth yn adeiladau ar lwyddiant y rhaglen ffotograffiaeth a’r rhaglen orielau cyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gobeithiaf y bydd proffil rhyngwladol August Sander, Bernd a Hilla Becher, a Martin Parr, a dylanwad Cymru ar waith Parr, yn dod â chynulleidfaoedd newydd, yn ysbrydoli pobl, ac yn datgelu straeon newydd.”