Datganiadau i'r Wasg

Rhaglen orlawn o gelf a diwylliant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2020

John Akomfrah - Vertigo Sea (2015)
Gosodwaith fideo lliw clirlun tair sianel, sain 7.1
48 munud 30 eiliad
© Smoking Dogs Films; trwy garedigrwydd Smoking Dogs Films ac Oriel Lisson

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i baentiadau a ffotograffau o safon rhyngwladol sy'n adrodd hanesion pwysig. Boed yn gip ar fywyd Richard Burton neu’n ragflas o gelf y dyfodol gydag Artes Mundi, mae 2020 yn argoeli'n flwyddyn dda wrth i ni gyhoeddi rhaglen arddangosfeydd gyffrous, newydd.

Pleser Amgueddfa Cymru yw cyhoeddi caffaeliad diweddar o waith yr artist Prydeinig John Akomfrah, Môr Vertigo. Gwelwyd y ffilm tair sgrîn am y tro cyntaf yn 56ed Biennale Fenis, a bydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 16 Mai a 6 Medi 2020. Bydd Môr Vertigo i'w gweld wedyn yn Oriel Gelf Towner, Eastbourne rhwng 3 Hydref a 6 Rhagfyr 2020.

Mae'r gwaith yn fyfyrdod telynegol ar berthynas dyn â'r môr wrth edrych ar ei rôl yn hanes caethwasiaeth, ymfudo a gwrthdaro. Cafodd ei gaffael ar y cyd yn 2019 gan Oriel Gelf Towner ac Amgueddfa Cymru. Prynwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Search drwy'r Gymdeithas Gelf Gyfoes, a Chronfa Datblygu Casgliad Towner.

Bydd Môr Vertigo yn ymddangos fel rhan o arddangosfa Rheolau Celf? sy'n casglu ynghyd bum canrif o baentiadau a darluniau, ffotograffau a ffilm, cerfluniau a chrochenwaith i gwestiynu hanfodion cynrychiolaeth, hunaniaeth a'r amgylchedd. Drwy gydweithio ag artistiaid ac awduron a phartneriaid cymunedol bydd elfennau o'r arddangosfa yn cael eu dehongli gan amryw o leisiau gwahanol, gan gwestiynu eto straeon pwy sy'n cael eu hadrodd, a chan bwy. Mai-Medi 2020.

 

Bydd un o gewri’r llwyfan a’r sgrin fawr yn destun arddangosfa newydd sbon: Bywyd Richard Burton. Dilynir hanes Richard Jenkins, y bachgen o Bontrhydyfen a Taibach ger Port Talbot, ar ei daith i gopa'r byd actio.

Ymhlith y gwrthrychau bydd ei ddyddiaduron personol, a dogfennau a gwrthrychau o Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yr arddangosfa fawr gyntaf o fywyd Richard Burton yn dod â ni'n agosach at y dyn tu hwnt i'r ddelfryd. Bydd Bywyd Richard Burton i'w gweld rhwng 4 Ebrill a 6 Medi 2020.

 

Yn 2020, bydd gwaith Bernardo Bellotto The Fortress of Königstein from the North – un o dirluniau mwyaf gwreiddiol a thrawiadol y 18fed ganrif – yn dechrau ar ei thaith genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Cestyll y Dychymyg: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain i'w gweld rhwng 28 Ionawr a 10 Mai 2020.

Cafodd y llun ei gaffael gan yr Oriel Genedlaethol yn 2017 gyda chymorth y Gronfa Gelf, a bydd yn mynd ar daith ynghyd â phump o weithiau eraill yr Oriel Genedlaethol i bob cwr o'r DU yn 2020 a dechrau 2021.

Drwy gasglu ynghyd gestyll real a dychmygol, bydd y daith hon i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa a Gerddi Gaeaf Sunderland, ac Amgueddfa Castell Norwich yn dyst i bosibiliadau creadigol cestyll i artistiaid dros 500 mlynedd.

 

Bydd rhaglen ffotograffiaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn parhau.

Bydd arddangosfa Martin Parr yng Nghymru i'w gweld rhwng 26 Hydref 2019 a 4 Mai 2020.

Mae Martin Parr yng Nghmru yn canolbwyntio ar waith un o'r ffotograffwyr mwyaf dylanwadol a chynhyrchiol sy'n gweithio heddiw. Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, bu'n cofnodi pobl, llefydd a diwylliannau yn y DU a thu hwnt, gan archwilio themâu hamdden, treuliant a chyfathrebu. Mae'n portreadu bywyd modern mewn ffordd chwareus a hoffus.

Mae'r arddangosfa'n casglu ynghyd, am y tro cyntaf, gasgliad o weithiau Parr yng Nghymru o ganol y 1970au hyd at 2018. Mae ei luniau – nifer ohonynt erioed wedi'u harddangos o'r blaen – yn archwilio gwahanol agweddau ar fywyd a diwylliant Cymru, o gorau meibion a chwaraeon i fwyd, gwyliau a glan y môr.

Mae YSTAFELL ARTIST: August Sander (tan 1 Mawrth 2010) yn cyflwyno dros 80 o ffotograffau gan August Sander (1876-1964), un o ffotograffwyr mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Daw'r portreadau hyn o broject anferth Sander, Pobl yr Ugeinfed Ganrif. Nod y project hwn oedd dangos portread gonest o gymdeithas yr Almaen ar y pryd. Bu Sander yn tynnu lluniau pobl o bob oed a chefndir; o ffermwyr, plismyn a gwleidyddion i fricwyr, ysgrifenyddion ac artistiaid. Caiff ei destunau, bob amser yn ddienw, eu hadnabod yn ôl eu swydd neu ddosbarth cymdeithasol, a'u rhannu yn saith grŵp penodol; Y Ffermwr; Y Crefftwr; Y Fenyw; Dosbarth a Galwedigaeth; Y Ddinas; Yr Artistiaid; a'r Bobl Olaf.

Daw lluniau'r arddangosfa o gasgliad teithio ARTIST ROOMS, sy'n cynnwys dros 1,600 o weithiau celf modern a chyfoes gan dros 42 artist o fri rhyngwladol. Caiff y casgliad ei arddangos ar draws y DU mewn arddangosfeydd unigol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, y Gronfa Gelf a Creative Scotland.

Mae ARTIST ROOMS yn perthyn ar y cyd i Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate. Sefydlwyd y casgliad trwy Rodd d'Offay yn 2008, gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, a Llywodraethau'r Alban a Phrydain. Mae'r arddangosfa wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Mae Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant (tan 1 March 2020) yn cynnwys 225 o ffotograffau gan Bernd a Hilla Becher. Ym 1965 daeth Bernd a Hilla i Gymru am y tro cyntaf, gan ddychwelyd ym 1966 wedi derbyn grant gan y British Council. O'u safle gwersylla yng Nglyn-nedd, buont yn crwydro'r Cymoedd, gan greu cyfres o ffotograffau sydd erbyn hyn yn gofeb i fyd a gollwyd; i'r llafur oedd unwaith mor ganolog i fywyd y cymunedau diwydiannol.

 

Yn dilyn llwyddiant arddangosfa Llun am Lun yn 2017, bydd arddangosfa newydd 2020 yn rhoi llwyfan i ragor o weithiau o gasgliad ffotograffau preifat David Hurn. Llun am Lun David Hurn Mai 2020-Chwefror 2021

Mae David Hurn wedi bod yn gasglwr ffotograffau brwd trwy gydol ei yrfa fel ffotograffydd dogfennol ac fel aelod o Magnum Photos. Dros drigain mlynedd a mwy mae wedi adeiladu casgliad o ryw 700 o ffotograffau sy'n cyffwrdd ar amryw o dechnegau ffotograffiaeth.

Yn 2017 rhoddodd gasgliad mawr o ffotograffau yn rhodd i Amgueddfa Cymru. Roedd dwy ran i'r rhodd: oddeutu 1,500 o'i ffotograffau eu hun, yn rhychwantu ei yrfa drigain mlynedd fel ffotograffydd dogfennol; a rhyw 700 o ffotograffau o'i gasgliad preifat a gasglodd yn ystod ei yrfa.

 

Bydd prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU Artes Mundi yn dychwelyd i Amgueddfa genedlaethol Caerdydd rhwng Hydref 2020 a Chwefror 2021.

Artes Mundi yw prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU ac mae'n bont ddiwylliannol bwysig rhwng y DU a'r gymuned ryngwladol. Fel arddangosfa eilflwydd bwysig, bydd Artes Mundi 9 yn cyflwyno arddangosfa o gelf gyfoes ryngwladol arloesol gan leisiau artistig pwysicaf ein hoes, gan herio'n hinsawdd gwleidyddol, cymdeithasol a bydol. 

Ar restr fer nawfed rhifyn y wobr eilflwydd mae chwe artist rhagorol: Firelei Báez (Gweriniaeth Dominica), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA).

Cyhoeddir enillydd gwobr fawreddog Artes Mundi yng Nghaerdydd yn Ionawr 2021 yn ystod yr arddangosfa bedair mis.

 

Bydd ymweliad Dippy'r Diplodocus â Chaerdydd yn dod i ben ar 26 Ionawr 2020. Cyrhaeddodd deinosor mwyaf poblogaidd y DU yr Amguedddfa ym mis Hydref gan ddenu dros 100,000 o ymwelwyr yn y mis cyntaf. Bydd Dippy ar Daith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 26 Ionawr 2020.

Mae Dippy ar Daith: Antur Hanes Natur yn digwydd diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain â Sefydliad Garfield Weston, gyda chymorth Dell EMC a Williams & Hill. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y DU mae un o wrthrychau mwyaf eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ar daith am dair blynedd.   

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi derbyn cymorth hael gan Admiral, Great Western Railway a siop Caerdydd John Lewis and Partners er mwyn dod â Dippy i Gymru. Diolch i gefnogaeth ein holl bartneriaid, caiff teuluoedd ddod at ei gilydd i brofi'r arddangosfa unwaith mewn oes hon.

Yr Uwch Dîm Rheoli Bydd arddangosfa Ffosilau o'r Gors yn parhau i ryfeddu ac addysgu ymwelwyr am yr hyn y gall ffosilau eu datgelu am wlyptiroedd trofannol hynafol Cymru. 

Mae rhai o'r ffosilau, gan gynnwys y Stigmaria 3D anferth sy'n ganolbwynt yr arddangosfa, yn dod o'r safle treftadaeth o safon rhyngwladol yn Brymbo yn y gogledd-ddwyrain. Mae'r ffosilau o Brymbo yn datgelu'n union sut oedd rhai o'r planhigion mawr yma'n tyfu. Mae'n anarferol canfod gweddillion mor fawr mewn un darn gan fod y rhan fwyaf o ffosilau o leoliadau eraill yn ddarnau o blahigion wedi torri oedd yn arnofio yn nyfroedd corsydd.