Datganiadau i'r Wasg

Blasu'r Bywyd Da - Marchnad Ffermwyr yn dod i Sain Ffagan

Os yw eich bryd ar gig oen o Fro Morgannwg gyda llysiau ffres, organig, neu botel o win organig o winllannoedd y Bont-faen, gall Amgueddfa Werin Cymru roi blas o'r bywyd da ichi yn eu marchnad ffermwyr fisol. Bydd dewis eang ar gael o gynnyrch organig a chynnyrch y buarth o ffermydd lleol a busnesau bach cefn gwlad yn Amgueddfa Werin Cymru, gan ddechrau y Sadwrn hwn, 26 Chwefror.

Ychydig iawn o leoliadau sydd yn fwy addas a dymunol na thiroedd Sain Ffagan ar gyfer bwydydd iachus a thraddodiadol. Gyda gerddi hanesyddol a pherllannau, coetiroedd a bridiau anghyffredin o ddefaid a gwartheg yn pori fan hyn a fan draw ar safle 104 erw yr amgueddfa, bydd marchnadoedd y ffermwyr yn ychwanegu at y daioni sy'n deillio o awyr iach Sain Ffagan.

Bydd cynnyrch coed, cwyr gwenyn a chanhwyllau ar gael yn y farchnad ochr yn ochr â Phopty Derwen sy'n paratoi bara organig arobryn i fynd gyda'r holl gawsiau a jamiau hyfryd fydd ar werth.

Bydd Marchnad Ffermwyr Sain Ffagan yn rhedeg rhwng 10am a 1pm ar y 4ydd Sadwrn o bob mis gan ddechrau fore Sadwrn 26 Chwefror.