Datganiadau i'r Wasg
Cestyll y Dychymyg: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain yn agor yng Nghaerdydd
Dyddiad:
2020-01-28Mae un o dirluniau mwyaf gwreiddiol a thrawiadol y 18fed ganrif - The Fortress of Königstein from the North (1756–8) gan y meistr o Fenis Bernardo Bellotto i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 28 Ionawr a 10 Mai 2020 fel rhan o daith drwy'r DU gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain.
Mae un o dirluniau mwyaf gwreiddiol a thrawiadol y 18fed ganrif - The Fortress of Königstein from the North (1756–8) gan y meistr o Fenis Bernardo Bellotto i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 28 Ionawr a 10 Mai 2020 fel rhan o daith drwy'r DU gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain.
Cafodd ei arbed ar gyfer pobl y DU yn 2017 gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain gyda chymorth y Gronfa Gelf a noddwyr eraill. Bydd arddangosfa Cestyll y Dychymyg yng Nghaerdydd yn ei gyflwyno ar y cyd â detholiad o baentiadau Hen Feistri Ewrop o gasgliadau'r Oriel Genedlaethol, Llundain ac Amgueddfa Cymru .
Gwlad o gestyll yw Cymru, gyda dros chwe chant yma yn dyst i hanes cythryblus y genedl. Defnyddiwyd motiff y castell gan nifer o artistiaid adnabyddus i bortreadu tirlun gwyllt, urddasol a rhamantaidd Cymru.
Bydd Cestyll y Dychymyg yn ategu ac amlygu cyfoeth ac amrywiaeth y dehongliadau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru gan gynnwys gwaith artistiaid fel Richard Wilson a Peter Finnemore. O ddangos gweithiau dau gasgliad cenedlaethol gyda'i gilydd cawn ein hannog i feddwl yn fentrus o'r newydd am eu dehongliad.
Fel rhan o'r dehongliad byddwn yn gwahodd plant ysgol i esbonio beth mae cestyll yn ei olygu iddyn nhw, ac i ymateb yn greadigol i waith Bellotto. Gan weithio gydag artist, bydd y plant yn creu GIFs i'w dangos ar sgrîn yn yr arddangosfa.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru: "Pleser yw cydweithio â'r Oriel Genedlaethol i ddathlu caffael un o dirluniau mwyaf allweddol Ewrop. A pha le gwell i'w arddangos i gynulleidfa newydd am y tro cyntaf nag yng Nghymru, gwlad y cestyll?
Ynghyd â lluniau eraill o'r Oriel Genedlaethol, bydd yn ategu gweithiau Hen Feistri Ewrop yn yr Amgueddfa a'i chasgliad o baentiadau o gestyll Cymru. Bydd yr arddangosfa a'i rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus amrywiol yn tynnu ar yr hunaniaeth a'r hanes sy'n clymu cymunedau ledled Cymru â'u cestyll lleol."
Bydd yr arddangosfa - gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf - yn casglu ynghyd gestyll real a dychmygol ac yn teithio hefyd i Amgueddfa a Gerddi Gaeaf Sunderland, ac Amgueddfa Castell Norwich yn 2020 a dechrau 2021.