Datganiadau i'r Wasg
Edrych ar gelf trwy lens LHDTQ+ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2020-03-02Er mwyn parhau i ddathlu’r gymuned LHDTQ+ ymhellach na Mis Hanes LHDTQ+ ym mis Chwefror, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Pride Cymru yn cydweithio i lansio cyfres newydd o deithiau dan ofal gwirfoddolwyr, fydd yn edrych ar waith celf gorau’r Amgueddfa o safbwynt ‘cwiar’. Caiff y daith am ddim gyntaf ei chynnal ar ddydd Sul 15 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd y teithiau misol hyn yn edrych ar sawl darn gwahanol o gelf o gasgliadau’r Amgueddfa; o Astudiaeth ar gyfer Hunan-bortread gan Francis Bacon, a’r cerflun pren o’r duwdod Bwdhaidd, Guanyin Avalokitesvara, i emwaith May Morris a roddwyd i’r Amgueddfa gan Mary Lobb, oedd â pherthynas glos gyda Morris. Caiff Cymry nodedig fel Gwen John, Cedric Morris a John Gibson eu trafod ar y daith.
Mae’r rhaglen newydd wedi’i chydlynu gan y curadur llawrydd – neu’r “queeradur” – Dan Vo, sydd wedi cynnal teithiau tebyg yn Amgueddfa Victoria and Albert yn Llundain ac yn Amgueddfeydd Prifysgol Caergrawnt.
Dywedodd Dan Vo:
“Rwy’n falch iawn i fod yn trefnu’r teithiau hyn, gan wirfoddolwyr, yng Nghaerdydd. Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gasgliad celf byd-enwog, ac mae’r daith hon yn gyfle i mi rannu straeon LHDTQ+, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli. Mae’n gyfle i ddathlu’r gymuned LHDTQ+ a chydnabod bodolaeth a chyfraniad unigolion o’r gymuned ar hyd hanes.”
Ond beth sy’n rhoi arwyddocâd LHDTQ+ i wrthrych? Yn ôl Dan, “Gallai fod wedi cael ei greu gan rywun LHDTQ+, neu fod y testun yn LHDTQ+, neu gallai’r gwrthrych fod yn rhan o stori ein cymuned.”
Dywedodd Owain Rhys, Pennaeth Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
“Mae celf yn oddrychol – mae pawb yn gweld rhywbeth personol a gwahanol wrth edrych ar ddarn o gelf. Rwy’n falch iawn ein bod ni, trwy weithio gyda Pride Cymru a Dan Vo, yn gallu dehongli’r casgliadau mewn ffordd newydd a chyffrous, gan ddangos fod y casgliadau cenedlaethol yn perthyn i bawb.”
Ychwanegodd Gian Molinu, Cadeirydd Pride Cymru:
“Mae’n gyffrous iawn ein bod yn gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i lansio’r ‘Teithiau Cwiar’ newydd fydd yn cynrychioli’r gymuned LHDTQ+ mewn ffordd mor wych. Mae hwn yn gyfle unigryw i ddysgu mwy am hanes LHDTQ+ yng Nghymru, ac i ddysgu straeon am wrthrychau ac arteffactau hanesyddol yn yr Amgueddfa sydd heb eu hadrodd neu wedi’u celu yn fwriadol – yn lle bod ar goll mewn hanes, mae’r straeon hyn yn cael eu hadrodd er mwyn i ni allu cysylltu â’n gorffennol. Mae Pride Cymru yn arbennig o falch i fod yn rhan o’r project hwn. Mae’r ‘Teithiau Cwiar’ yn dangos fod y gymuned LHDTQ+ wedi bod yn rhan allweddol o gymdeithas erioed. Rwy’n teimlo bod hyn yn gam arall tuag at gymdeithas wirioneddol gynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth.”
I gofrestru am docynnau am ddim, neu am fwy o wybodaeth, ewch i www.amgueddfa.cymru/caerdydd